– Senedd Cymru am 1:30 pm ar 11 Chwefror 2020.
Rwyf wedi derbyn cwestiwn brys, o dan Rheol Sefydlog 12.67, a dwi'n galw ar Janet Finch-Saunders i ofyn y cwestiwn brys.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i leddfu’r sefyllfa sy’n wynebu trigolion Dyffryn Conwy yn dilyn y llifogydd diweddar? (EAQ0007)
Rwyf i wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig heddiw ynglŷn â llifogydd o storm Ciara. Teimlwyd yr effeithiau ledled Cymru, yn enwedig yn Llanrwst a Llanfair Talhaearn. Rwy'n cydymdeimlo â'r rhai sydd wedi dioddef llifogydd mewn unrhyw le yng Nghymru, a diolchaf i'r awdurdodau lleol, y gwasanaethau brys a thimau Cyfoeth Naturiol Cymru, a fu'n gweithio'n ddiflino o dan amodau ofnadwy i'n cadw ni'n ddiogel. Lle y bu llifogydd, mae awdurdodau lleol angen y cyfle nawr i ymchwilio ac adrodd ar eu canfyddiadau. Bydd ein buddsoddiad yn parhau i gefnogi awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu rhagor o gynlluniau lliniaru llifogydd, lle y byddan nhw'n effeithiol o ran atal llifogydd yn y dyfodol.
Diolch, Gweinidog. Unwaith eto, mae Aberconwy, o Gapel Curig i Ddeganwy, wedi cael ei tharo'n galed gan lifogydd o ganlyniad i storm Ciara. Fodd bynnag, yn fy etholaeth i, mae'r sioc a'r dinistr ar eu gwaethaf yn Llanrwst, Trefriw a'r ardaloedd pellennig. Roeddwn i yno ddoe, a gwelais drosof fy hun y difrod aruthrol sydd wedi cael ei achosi i lawer o siopau, busnesau ac eiddo preswyl, ac mae gweld unigolion ar goll yn llwyr a theimlo'n gwbl ddiymadferth wrth iddyn nhw frwydro i glirio carthion a mwd o'u cartrefi yn dorcalonnus, ac etholwyr yn dweud wrthyf i eto pa mor drallodus a bregus y maen nhw'n teimlo, ac mai dyma'r llifogydd gwaethaf y maen nhw wedi eu dioddef erioed, a llawer ohonyn nhw wedi byw yno ers degawdau. Ond ar y pwynt hwn, fodd bynnag, hoffwn innau hefyd roi ar goedd fy niolch i'r gwasanaethau brys, yr awdurdod lleol, a'r holl drigolion am yr anhunanoldeb y maen nhw wedi ei ddangos wrth geisio helpu ei gilydd, a'r gymuned, i ymdopi â'r fath ddinistr. Roedd yn rhyfeddol gweld yr ysbryd cymunedol sydd wedi codi o'r fath drychineb.
Gweinidog, nid dyma'r tro cyntaf i mi godi llifogydd mynych Dyffryn Conwy gyda chi. Gwta bythefnos yn ôl, cyflwynais gwestiwn ysgrifenedig yn y Cynulliad yn gofyn pa gamau yr oeddech chi'n eu cymryd i gynnal adolygiad annibynnol o fesurau lliniaru llifogydd ar gyfer Dyffryn Conwy. Fy rheswm oedd mynychder yr achosion hyn o lifogydd yn yr ardaloedd hyn. Nawr, fe wnaethoch chi ateb, gan ddweud
Adolygwyd cynllun lliniaru llifogydd Dyffryn Conwy gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn 2018. Cadarnhaodd yr adolygiad bod cymunedau yn Nyffryn Conwy yn elwa ar lai o berygl o lifogydd o ganlyniad i'r cynllun ar hyn o bryd. Nid oes unrhyw gynlluniau i gynnal unrhyw adolygiadau pellach.
Nawr, Gweinidog, mae wedi dioddef llifogydd ers 2018. Fel y gwyddoch yn iawn, bu llifogydd y llynedd tua'r adeg hon. Felly, rwy'n credu bod yr ymateb hwnnw'n druenus o annigonol, a bod yn sicr angen i chi ei ailystyried nawr.
Felly, cwestiwn 1: a all y Gweinidog ddweud wrthyf i pam nad oedd rhybuddion llifogydd arferol Cyfoeth Naturiol Cymru ar waith mewn digon o bryd, o gofio'r bwletinau newyddion niferus bod storm Ciara ar ei ffordd? Dau: gan yr ystyriwyd erbyn hyn bod hwn yn ddigwyddiad sylweddol, pa gyllid fydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i'r awdurdod lleol i helpu gyda'r gwaith glanhau, a sut y bydd hwn yn treiddio drwodd i'r union drigolion a busnesau y cafwyd effaith mor wael arnyn nhw? Yn anffodus iawn, nid oes gan rai ohonyn nhw yswiriant oherwydd lefel y digwyddiadau llifogydd ailadroddus. Tri: o ystyried y digwyddiadau ofnadwy yn yr ardal hon dros y penwythnos, a wnewch chi adolygu nawr y cyngor a roddwyd i chi gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a chefnogi'r galwadau niferus yn y gymuned, a chan aelodau etholedig, am adolygiad annibynnol o'r mesurau lliniaru llifogydd yn Nyffryn Conwy?
Ac, yn olaf, a wnewch chi ddod i Aberconwy, ac a wnewch chi ymweld gyda mi â rhai o'r bobl y mae'r digwyddiadau diweddar wedi cael yr effaith fwyaf arnyn nhw? Diolch yn fawr.
Wel, byddaf yn ymweld yn ddiweddarach yr wythnos hon. Mae pa un a allaf i ddod gyda chi ai peidio yn dibynnu ar ddyddiaduron, yn amlwg, ond byddaf yn sicr yn ymweld yn ddiweddarach yr wythnos hon fy hunan.
Rwy'n credu eich bod chi wedi codi nifer o faterion y mae angen rhoi sylw iddyn nhw. Felly, rydych chi yn llygad eich lle, fe wnes i eich ateb chi wythnos neu ddwy yn ôl, ac, fel y dywedais, cawsom adolygiad modelu o Ddyffryn Conwy. Daeth hwnnw i ben yn 2018. Nawr, byddaf yn disgwyl, yn amlwg, i'r awdurdod lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru ymchwilio i'r hyn y mae angen ei wneud, a byddan nhw'n cyflwyno argymhellion. Nid wyf i'n mynd i ddyfalu ynghylch yr achosion. Mae'n ymddangos bod llawer o'n cynlluniau amddiffyn afonydd wedi gwneud eu gwaith. Wrth gwrs, roedd lefelau'r afon yn anhygoel o uchel, felly mae angen i ni edrych ar yr argymhellion a ddaw gan yr awdurdod lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru.
Rwy'n credu bod llawer o gwestiynau i'w gofyn. Rwyf innau hefyd wedi cael copïau o ohebiaeth gan rai o'ch etholwyr, ac rwy'n sylwi eich bod chithau wedi cael copi hefyd—pryderon ynghylch yr ymatebion a dderbyniwyd, ac rwy'n credu bod angen i chi edrych ar hynny ac efallai rhoi sylw i'r materion hynny gyda'r awdurdod lleol yn uniongyrchol . Fel y gwyddoch, rydym ni wedi dyrannu cyllid sylweddol ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd—dros £350 miliwn ledled Cymru yn nhymor y Cynulliad hwn. Ond, wrth gwrs, pa bynnag argymhellion a ddaw o'r ymchwiliadau y mae Cyfoeth Naturiol Cymru a'r awdurdod lleol yn eu cynnal, byddaf yn ceisio gweld beth y gallwn ni ei wneud i barhau i gynorthwyo'r ardaloedd hynny.
Diolchaf eto i bawb am eu hymateb i hyn dros y penwythnos. Rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn am wirfoddolwyr hefyd, a'r gymuned. Ac, yn sicr, o wylio adroddiadau newyddion neithiwr, roedd hynny'n amlwg iawn i'w weld. Ond fel y dywedais, nid wyf i'n mynd i ddyfalu. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw edrych ar yr hyn a achosodd hyn, a chymryd golwg ar unrhyw argymhellion a ddaw o'r ymchwiliad.
Fyddech chi'n cytuno â fi, Weinidog, fod yr erydu sydd wedi bod ar gyllidebau awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru yn rhannol gyfrifol am y sefyllfa rŷn ni'n ffeindio ein hunain ynddi? Oherwydd, wrth gwrs, pethau fel glanhau afonydd a culverts ac yn y blaen sydd yn cael eu torri pan nad yw'r adnoddau dynol a'r cyllidebau yn eu lle. Ac mae hyn, wrth gwrs, yn ein hatgoffa ni o bwynt dwi wedi ei godi yn fan hyn ddegau o weithiau yn y misoedd diwethaf, ynglŷn â'r trajectory anghynaladwy yma sydd gennym ni ar hyn o bryd, lle mae awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru â disgwyliad arnyn nhw i wneud mwy a mwy—trwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, trwy Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 ac yn y blaen—tra ar yr un pryd, wrth gwrs, mae eu cyllidebau nhw yn mynd yn llai ac yn llai. Felly, mae'n rhaid eich bod chi'n cydnabod bod y trajectory yna yn anghynaladwy, ac mae rhai o'r canlyniadau efallai, fel rŷn ni wedi ei weld yn y dyddiau diwethaf yma, yn anochel os ŷn ni'n mynd i barhau ar y trajectory yna. Gaf fi ofyn, felly, pa adnoddau ychwanegol y byddwch chi yn eu gwneud ar gael i awdurdodau lleol, yn enwedig y rhai sydd wedi cael eu heffeithio yn uniongyrchol gan ddigwyddiadau'r dyddiau diwethaf yma, ynghyd â Chyfoeth Naturiol Cymru?
Fyddech chi'n cytuno â fi hefyd fod yn rhaid inni newid y naratif? Mae pobl yn aml iawn yn dweud, 'O, mae'n costio gormod i ni fuddsoddi mewn atal llifogydd.' Mae'n rhaid inni newid y naratif, oherwydd y gost ormodol yw canlyniad y dinistr. Felly, buddsoddiad yw buddsoddi mewn mesurau i atal llifogydd, er mwyn arbed pres o beidio â gorfod delio â'r canlyniadau yn y pen draw. Felly dwi eisiau gwybod beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i newid y naratif yna, er mwyn sicrhau bod y gefnogaeth allan yn fanna inni fynd i'r afael â newid hinsawdd, i'r raddfa y dylem ni fod yn ei wneud.
Ac yn olaf, un o'r afonydd yn Nyffryn Conwy a wnaeth orlifo oedd Afon Cae Person, a'r afon honno, wrth gwrs, a effeithiodd ar Ysgol Dyffryn Conwy. Roedd yr ysgol ar gau ddoe; mae'r bloc mathemateg a thechnoleg yn dal i fod ar gau heddiw, ar gyfer glanhau a dad-gontamineiddio. Ysgol menter cyllid preifat yw Ysgol Dyffryn Conwy; nawr, mae'r cyngor, felly, wedi gwrthod cymryd cyfrifoldeb dros y glanhau a'r clirio, ac, o beth rwy'n ei ddeall, doedd Sodexo—y cwmni a fyddai â chyfrifoldeb—ddim wedi troi lan ddoe, ac, o ganlyniad, gofalwyr yr ysgol sydd wedi gorfod delio â'r ymdrech gychwynnol i lanhau. Felly, a allwch chi fy sicrhau i fod cwmnïau fel Sodexo yn gwbl glir am eu cyfrifoldebau, ac yn mynd i fod yn ymateb fel y dylen nhw? A pha sicrwydd allwch chi ei roi i fi fod yna sefydliadau ac adeiladau PFI eraill yng Nghymru sydd ddim yn mynd i ffeindio eu hunain o dan yr un anfantais yn y dyfodol?
Wel, nid dyna naratif Llywodraeth Cymru yn sicr. Fel y dywedais yn fy ateb cynharach i Janet Finch-Saunders, rydym ni wedi dyrannu cyllid sylweddol i gynlluniau lliniaru llifogydd ledled Cymru, felly nid dyna ein naratif ni yn sicr. Ac yng nghyswllt Cyfoeth Naturiol Cymru, yr wyf i'n ei ariannu, maen nhw wedi cael cyllid sylweddol i fynd i'r afael â materion llifogydd. Un o'r problemau sydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar hyn o bryd yw sicrhau bod ganddyn nhw eu cwota llawn o staff o ran y mater hwn, ac mae fy swyddogion i wedi bod yn gweithio'n agos iawn i sicrhau bod hynny'n digwydd. Soniais yn fy ateb yn gynharach am yr hyn y mae angen ei wneud, a pha gyllid y mae angen ei roi. Byddwn yn aros i arbenigwyr llifogydd a dŵr ein hysbysu am yr hyn y gallai fod ei angen. Ac, yn sicr, byddaf yn edrych i weld pa gyllid sydd ar gael i ni pan ddaw'r argymhellion hynny i law.
O ran, Ysgol Dyffryn Conwy rwy'n credu y dywedasoch chi—nid oeddwn i'n ymwybodol o hynny, ond byddaf yn gofyn i'r Gweinidog Addysg roi sylw i'r mater hwnnw.
Gweinidog, mae llifogydd yn amlwg yn drychinebus iawn, ac wedi byw drwy'r llifogydd yn Nhywyn—a bydd deg mlynedd ar hugain wedi mynd heibio ers y rheini, ychydig yn ddiweddarach y mis hwn—gallaf dystio i'r effaith enfawr y maen nhw'n ei chael a'r etifeddiaeth barhaus y maen nhw'n eu cael ar unrhyw deuluoedd, cartrefi a busnesau sydd wedi cael eu heffeithio.
Effeithiwyd ar bobl Llanfair Talhaearn, yn fy etholaeth i, gan lifogydd am y trydydd tro mewn wyth mlynedd, ac mae hynny er gwaethaf rhaglen o welliannau, sydd eisoes ar y gweill yn y pentref arbennig hwnnw. Ac, wrth gwrs, dros y penwythnos, gwelsom eiddo, nid yn unig yn Llanfair T. H., yn fy etholaeth i, ond hefyd yn Llangernyw, Llansannan ac ym Mae Colwyn a gafodd eu heffeithio gan lifogydd. Rwy'n credu ei bod yn bryder pan y dywedir wrthym ni bod eiddo'n cael ei warchod i safon unwaith mewn 75 mlynedd, sef yr hyn a ddywedwyd wrth bobl o ran Llanfair T. H., i ganfod eu hunain o dan ddŵr deirgwaith mewn wyth mlynedd.
Ac rwy'n gwybod bod ail gam prosiect gwella i fod ar y gweill. Roedd i fod i gael ei drefnu, rwy'n credu, i ddechrau'r gwanwyn hwn, ond nid yw wedi dechrau mewn gwirionedd, a byddwn yn gofyn a oes bellach angen adolygiad cyflym o'r prosiect penodol hwnnw i wneud yn siŵr ei fod yn mynd i fod yn addas i'w ddiben. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, roedd problem gyda chynnal a chadw'r gwaith o glirio Nant Barrog, a orlifodd gan achosi llifogydd yn y cartrefi hynny yn Llanfair T. H., ac rwy'n credu y bydd pobl yn edrych i weld pam na fu'r drefn cynnal a chadw honno'n ddigonol i'w diogelu y tro hwn.
Nawr, yn amlwg, rydych chi eisoes wedi cyfeirio at y ffaith y bydd ymchwiliadau'n cael eu cynnal gan yr awdurdod lleol ac, yn wir, Cyfoeth Naturiol Cymru, ond ar ôl gweld llifogydd y llynedd ym mis Ebrill ym Mhensarn, yn fy etholaeth i, rydym ni eto i weld copi o adroddiad yr ymchwiliad a ddeilliodd o'r digwyddiad penodol hwnnw. Felly, am ba hyd y bydd yn rhaid i bobl aros cyn iddyn nhw ddeall pam mae'r llifogydd wedi digwydd a pha un a oedd mesurau lliniaru y gellid bod wedi eu cymryd cyn y llifogydd hyn?
Rydych chi eisoes wedi cael eich holi am y cynllun cymorth ariannol brys. Rwy'n sylwi bod Llywodraeth y DU, yn Lloegr, wedi sicrhau bod cyllid Bellwin ar gael i awdurdodau lleol y mae storm Ciara wedi effeithio arnyn nhw yn y fan honno. A gaf i ofyn i chi sbarduno'r cynllun cymorth ariannol brys, yn enwedig i Gonwy, o gofio ei fod wedi dioddef dros y penwythnos y llifogydd gwaethaf ers llifogydd Tywyn ddeng mlynedd ar hugain yn ôl? Ac a gaf i hefyd ofyn, yn sgil hyn, pa drafodaethau y gallai Llywodraeth Cymru eu cael gyda Chymdeithas Yswirwyr Prydain er mwyn gwneud yn siŵr bod premiymau fforddiadwy ar waith? Nawr, rwy'n gwybod bod rhaglen ar gyfer y DU gyfan o'r enw Flood Re, sy'n ceisio gwneud y premiwm yswiriant yn fforddiadwy mewn ardaloedd lle ceir perygl o lifogydd, ond yn amlwg mae hwnnw'n dibynnu ar bartneriaeth rhwng Llywodraethau a'r diwydiant yswiriant a dealltwriaeth o'r buddsoddiad a allai gael ei wneud. Felly, hoffwn i wybod pa drafodaethau uniongyrchol yr ydych chi'n eu cael gyda nhw, oherwydd mae rhai pobl yn dweud wrthyf i eu bod nhw'n cael problemau o ran cael yswiriant fforddiadwy bellach, ac mae hynny'n bryder mawr iddyn nhw.
Felly, a wnewch chi ryddhau buddsoddiad i gynorthwyo awdurdodau lleol drwy'r cynllun cymorth ariannol brys? Pa waith ydych chi'n ei wneud gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod eu gwaith modelu yn gywir ac nad yw'n anghywir, oherwydd dyna'r hyn yr ydym ni wedi ei weld yn ddiweddar? Ac a wnewch chi gael y trafodaethau hynny gyda Chymdeithas Yswirwyr Prydain i wneud yn siŵr bod yr adolygiadau a'r ymchwiliadau hyn sy'n cael eu cynnal nawr yn gyflym ac nad ydyn nhw'n cymryd gormod o amser?
Felly, rwy'n credu bod yn rhaid i ni i gyd dderbyn y byddwn ni'n gweld y mathau hyn o ddigwyddiadau yn amlach. Mae hyn yn amlwg oherwydd y newid yn yr hinsawdd, ac rwy'n llwyr gydnabod y pwynt yr ydych chi'n ei wneud ynglŷn â hynny. Rwyf i eisoes wedi gofyn i swyddogion gynnal adolygiad cyflym o unrhyw gynlluniau—ac mae gennym ni lawer—sydd ar y gweill i weld beth y bydd angen ei gyflwyno a byddwn yn gwneud hynny ochr yn ochr â'r adroddiadau ymchwilio a'r argymhellion y byddwn ni'n eu cael.
Rydych chi'n gwneud pwynt perthnasol iawn ynglŷn ag yswiriant, ac rwy'n croesawu'r ffaith bod Flood Re yn gweithredu ledled y DU erbyn hyn, ac mae dros 90 y cant o gwmnïau yswiriant yn ei gynnig i gartrefi sydd mewn perygl mawr o lifogydd. Ond, wrth gwrs, nid yw busnesau bach yn cael eu gwarchod yn y cynllun hwnnw, ac mae deddfwriaeth ar wasanaethau ariannol yn dal i fod yn fater a gadwyd yn ôl ac mae unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â darparu'r cynllun hwnnw yn deg yn nwylo Llywodraeth y DU. Felly, byddaf yn codi'r mater hwnnw gyda Llywodraeth y DU hefyd.
Nid yw problemau llifogydd wedi'u cyfyngu i Ddyffryn Conwy na Llanrwst. Mae gennym ni broblemau gyda llifogydd ledled y gogledd. Mewn rhai achosion, mae'r problemau o ran llifogydd yn cael eu gwaethygu gan weithredoedd awdurdodau lleol. Felly, sut byddwch chi'n gweithio gydag awdurdodau lleol i wneud yn siŵr bod y pethau y maen nhw'n eu gwneud gyda'r amgylchedd, fel cwympo coed, er enghraifft, yng nghyffiniau ffyrdd ac mewn ardaloedd sy'n dueddol o ddioddef llifogydd—? Sut ydych chi'n gweithio gydag awdurdodau lleol i wneud yn siŵr bod eu gweithredoedd yn yr amgylchedd lleol yn helpu i atal llifogydd yn hytrach na'u gwaethygu?
Mae awdurdodau lleol yn bartner pwysig iawn ym mhopeth yr ydym ni'n ei wneud i liniaru'r perygl o lifogydd, a bydd y mathau hynny o sgyrsiau'n cael eu cynnal, er enghraifft, pan fyddwn ni'n edrych ar gyflwyno cynllun lliniaru llifogydd. Gwn fod y trafodaethau hynny wedi digwydd yn barod. Rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig iawn cydnabod y gwaith y mae awdurdodau lleol yn ei wneud ar adeg fel yr ydym ni wedi ei gweld dros y penwythnos; i sicrhau bod bagiau tywod, er enghraifft, yn cael eu darparu. Gwn fod rhywfaint o'r ohebiaeth yr wyf i wedi ei chael gan etholwyr Janet Finch-Saunders wedi codi'r mater hwnnw. Felly, mae honno'n drafodaeth barhaus gyda swyddogion.
Diolch i'r Gweinidog.