Part of the debate – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 11 Chwefror 2020.
Diolch, Gweinidog. Unwaith eto, mae Aberconwy, o Gapel Curig i Ddeganwy, wedi cael ei tharo'n galed gan lifogydd o ganlyniad i storm Ciara. Fodd bynnag, yn fy etholaeth i, mae'r sioc a'r dinistr ar eu gwaethaf yn Llanrwst, Trefriw a'r ardaloedd pellennig. Roeddwn i yno ddoe, a gwelais drosof fy hun y difrod aruthrol sydd wedi cael ei achosi i lawer o siopau, busnesau ac eiddo preswyl, ac mae gweld unigolion ar goll yn llwyr a theimlo'n gwbl ddiymadferth wrth iddyn nhw frwydro i glirio carthion a mwd o'u cartrefi yn dorcalonnus, ac etholwyr yn dweud wrthyf i eto pa mor drallodus a bregus y maen nhw'n teimlo, ac mai dyma'r llifogydd gwaethaf y maen nhw wedi eu dioddef erioed, a llawer ohonyn nhw wedi byw yno ers degawdau. Ond ar y pwynt hwn, fodd bynnag, hoffwn innau hefyd roi ar goedd fy niolch i'r gwasanaethau brys, yr awdurdod lleol, a'r holl drigolion am yr anhunanoldeb y maen nhw wedi ei ddangos wrth geisio helpu ei gilydd, a'r gymuned, i ymdopi â'r fath ddinistr. Roedd yn rhyfeddol gweld yr ysbryd cymunedol sydd wedi codi o'r fath drychineb.
Gweinidog, nid dyma'r tro cyntaf i mi godi llifogydd mynych Dyffryn Conwy gyda chi. Gwta bythefnos yn ôl, cyflwynais gwestiwn ysgrifenedig yn y Cynulliad yn gofyn pa gamau yr oeddech chi'n eu cymryd i gynnal adolygiad annibynnol o fesurau lliniaru llifogydd ar gyfer Dyffryn Conwy. Fy rheswm oedd mynychder yr achosion hyn o lifogydd yn yr ardaloedd hyn. Nawr, fe wnaethoch chi ateb, gan ddweud
Adolygwyd cynllun lliniaru llifogydd Dyffryn Conwy gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn 2018. Cadarnhaodd yr adolygiad bod cymunedau yn Nyffryn Conwy yn elwa ar lai o berygl o lifogydd o ganlyniad i'r cynllun ar hyn o bryd. Nid oes unrhyw gynlluniau i gynnal unrhyw adolygiadau pellach.
Nawr, Gweinidog, mae wedi dioddef llifogydd ers 2018. Fel y gwyddoch yn iawn, bu llifogydd y llynedd tua'r adeg hon. Felly, rwy'n credu bod yr ymateb hwnnw'n druenus o annigonol, a bod yn sicr angen i chi ei ailystyried nawr.
Felly, cwestiwn 1: a all y Gweinidog ddweud wrthyf i pam nad oedd rhybuddion llifogydd arferol Cyfoeth Naturiol Cymru ar waith mewn digon o bryd, o gofio'r bwletinau newyddion niferus bod storm Ciara ar ei ffordd? Dau: gan yr ystyriwyd erbyn hyn bod hwn yn ddigwyddiad sylweddol, pa gyllid fydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i'r awdurdod lleol i helpu gyda'r gwaith glanhau, a sut y bydd hwn yn treiddio drwodd i'r union drigolion a busnesau y cafwyd effaith mor wael arnyn nhw? Yn anffodus iawn, nid oes gan rai ohonyn nhw yswiriant oherwydd lefel y digwyddiadau llifogydd ailadroddus. Tri: o ystyried y digwyddiadau ofnadwy yn yr ardal hon dros y penwythnos, a wnewch chi adolygu nawr y cyngor a roddwyd i chi gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a chefnogi'r galwadau niferus yn y gymuned, a chan aelodau etholedig, am adolygiad annibynnol o'r mesurau lliniaru llifogydd yn Nyffryn Conwy?
Ac, yn olaf, a wnewch chi ddod i Aberconwy, ac a wnewch chi ymweld gyda mi â rhai o'r bobl y mae'r digwyddiadau diweddar wedi cael yr effaith fwyaf arnyn nhw? Diolch yn fawr.