Part of the debate – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 11 Chwefror 2020.
Gweinidog, mae llifogydd yn amlwg yn drychinebus iawn, ac wedi byw drwy'r llifogydd yn Nhywyn—a bydd deg mlynedd ar hugain wedi mynd heibio ers y rheini, ychydig yn ddiweddarach y mis hwn—gallaf dystio i'r effaith enfawr y maen nhw'n ei chael a'r etifeddiaeth barhaus y maen nhw'n eu cael ar unrhyw deuluoedd, cartrefi a busnesau sydd wedi cael eu heffeithio.
Effeithiwyd ar bobl Llanfair Talhaearn, yn fy etholaeth i, gan lifogydd am y trydydd tro mewn wyth mlynedd, ac mae hynny er gwaethaf rhaglen o welliannau, sydd eisoes ar y gweill yn y pentref arbennig hwnnw. Ac, wrth gwrs, dros y penwythnos, gwelsom eiddo, nid yn unig yn Llanfair T. H., yn fy etholaeth i, ond hefyd yn Llangernyw, Llansannan ac ym Mae Colwyn a gafodd eu heffeithio gan lifogydd. Rwy'n credu ei bod yn bryder pan y dywedir wrthym ni bod eiddo'n cael ei warchod i safon unwaith mewn 75 mlynedd, sef yr hyn a ddywedwyd wrth bobl o ran Llanfair T. H., i ganfod eu hunain o dan ddŵr deirgwaith mewn wyth mlynedd.
Ac rwy'n gwybod bod ail gam prosiect gwella i fod ar y gweill. Roedd i fod i gael ei drefnu, rwy'n credu, i ddechrau'r gwanwyn hwn, ond nid yw wedi dechrau mewn gwirionedd, a byddwn yn gofyn a oes bellach angen adolygiad cyflym o'r prosiect penodol hwnnw i wneud yn siŵr ei fod yn mynd i fod yn addas i'w ddiben. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, roedd problem gyda chynnal a chadw'r gwaith o glirio Nant Barrog, a orlifodd gan achosi llifogydd yn y cartrefi hynny yn Llanfair T. H., ac rwy'n credu y bydd pobl yn edrych i weld pam na fu'r drefn cynnal a chadw honno'n ddigonol i'w diogelu y tro hwn.
Nawr, yn amlwg, rydych chi eisoes wedi cyfeirio at y ffaith y bydd ymchwiliadau'n cael eu cynnal gan yr awdurdod lleol ac, yn wir, Cyfoeth Naturiol Cymru, ond ar ôl gweld llifogydd y llynedd ym mis Ebrill ym Mhensarn, yn fy etholaeth i, rydym ni eto i weld copi o adroddiad yr ymchwiliad a ddeilliodd o'r digwyddiad penodol hwnnw. Felly, am ba hyd y bydd yn rhaid i bobl aros cyn iddyn nhw ddeall pam mae'r llifogydd wedi digwydd a pha un a oedd mesurau lliniaru y gellid bod wedi eu cymryd cyn y llifogydd hyn?
Rydych chi eisoes wedi cael eich holi am y cynllun cymorth ariannol brys. Rwy'n sylwi bod Llywodraeth y DU, yn Lloegr, wedi sicrhau bod cyllid Bellwin ar gael i awdurdodau lleol y mae storm Ciara wedi effeithio arnyn nhw yn y fan honno. A gaf i ofyn i chi sbarduno'r cynllun cymorth ariannol brys, yn enwedig i Gonwy, o gofio ei fod wedi dioddef dros y penwythnos y llifogydd gwaethaf ers llifogydd Tywyn ddeng mlynedd ar hugain yn ôl? Ac a gaf i hefyd ofyn, yn sgil hyn, pa drafodaethau y gallai Llywodraeth Cymru eu cael gyda Chymdeithas Yswirwyr Prydain er mwyn gwneud yn siŵr bod premiymau fforddiadwy ar waith? Nawr, rwy'n gwybod bod rhaglen ar gyfer y DU gyfan o'r enw Flood Re, sy'n ceisio gwneud y premiwm yswiriant yn fforddiadwy mewn ardaloedd lle ceir perygl o lifogydd, ond yn amlwg mae hwnnw'n dibynnu ar bartneriaeth rhwng Llywodraethau a'r diwydiant yswiriant a dealltwriaeth o'r buddsoddiad a allai gael ei wneud. Felly, hoffwn i wybod pa drafodaethau uniongyrchol yr ydych chi'n eu cael gyda nhw, oherwydd mae rhai pobl yn dweud wrthyf i eu bod nhw'n cael problemau o ran cael yswiriant fforddiadwy bellach, ac mae hynny'n bryder mawr iddyn nhw.
Felly, a wnewch chi ryddhau buddsoddiad i gynorthwyo awdurdodau lleol drwy'r cynllun cymorth ariannol brys? Pa waith ydych chi'n ei wneud gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod eu gwaith modelu yn gywir ac nad yw'n anghywir, oherwydd dyna'r hyn yr ydym ni wedi ei weld yn ddiweddar? Ac a wnewch chi gael y trafodaethau hynny gyda Chymdeithas Yswirwyr Prydain i wneud yn siŵr bod yr adolygiadau a'r ymchwiliadau hyn sy'n cael eu cynnal nawr yn gyflym ac nad ydyn nhw'n cymryd gormod o amser?