Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 11 Chwefror 2020.
Prif Weinidog, yn absenoldeb Deddf aer glân, fel yr ydych chi wedi ei nodi, rydym ni'n mynd i gael cynllun aer glân, ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben ac i chi ymateb iddo ac yna ei roi ar waith. Bydd rheoliadau atal a rheoli sy'n defnyddio'r technegau gorau sydd ar gael ar gyfer rheoli llygredd yn ganolog i'r drefn newydd . Efallai y gallech chi ymhelaethu ar beth y mae hyn yn debygol o fod, oherwydd rwy'n credu ein bod ni angen cymysgedd o sicrhau bod ein prif ddiwydiannau eu hunain yn gwella eu harferion eu hunain, ond yn amlwg mae trefn orfodi sy'n sicrhau, os nad ydyn nhw'n ei wneud o'u gwirfodd, y byddan nhw'n cael eu cosbi.