Rheolau Dŵr Newydd Arfaethedig

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 11 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:25, 11 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Nid oes neb wedi cwestiynu pa un a oes angen rheoleiddio. Y cwestiwn yn y fan yma, wrth gwrs, yw cymesuredd y rheoliadau hynny. Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru, hyd yn oed, yn cytuno â dull eich Gweinidog ar gyfer dynodiad Cymru gyfan, ac mae'n sicr wedi bod yn fater o bryder a gohebiaeth i nifer enfawr o'm hetholwyr.

Fe godais gwestiynau difrifol gyda'r Gweinidog yr wythnos diwethaf, yn ystod cwestiynau, am y sail dystiolaeth y mae'r cynigion yr ydym ni wedi eu gweld hyd yn hyn yn seiliedig arnyn nhw. Rydym ni wir angen cyfle, rwy'n credu, pan gaiff y rheoliadau terfynol eu cyflwyno, i brofi'r rheini'n drwyadl iawn yma yn y Siambr hon. Dywedasoch wrthym y bydd datganiad yn cael ei wneud yn fuan. Hoffwn feddwl nad yw'r Llywodraeth hon mor sinigaidd ag i lithro datganiad ysgrifenedig allan yn ystod hanner tymor. Dylem ni, o leiaf, er mwyn sicrhau tryloywder ac atebolrwydd, gael datganiad llafar yn y fan yma. Byddai unrhyw beth yn llai na hynny yn fater o esgeulustod, a dweud y gwir, ac ni fyddai'n dderbyniol. Hwn yw'r  mater unigol yr wyf i wedi cael y mwyaf o ohebiaeth yn ei gylch oddi wrth fy etholwyr ers misoedd lawer iawn. Os byddwch chi'n ceisio ei wneud yn y ffordd honno, rwy'n credu y byddai hynny'n wrthun.