1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 11 Chwefror 2020.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am reolau dŵr newydd arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â llygredd? OAQ55104
Diolchaf i'r Aelod am hynna, Llywydd. Mae llygredd amaethyddol yn effeithio ar iechyd ac ansawdd ein hafonydd, ein llynnoedd a'n nentydd ledled Cymru. Mae dŵr glân yn hanfodol i'n bywydau ni i gyd. Mae'n rhaid i ni gymryd camau cymesur, wedi'u targedu, i fynd i'r afael â'r broblem. Bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad ar y ffordd ymlaen yn fuan, yng ngoleuni'r dystiolaeth.
Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Yng ngoleuni'r dystiolaeth a ddaeth ar gael i'r Aelodau yr wythnos diwethaf o gais rhyddid gwybodaeth a sicrhawyd gan Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr gan Cyfoeth Naturiol Cymru, tynnodd y dystiolaeth yr oedden nhw wedi ei chyflwyno i adran y Gweinidog o ran yr asesiad effaith rheoleiddiol sylw at y ffaith y gallai cynigion y Llywodraeth gael canlyniad gwrthnysig a gwaethygu'r broblem ynghylch llygredd a dŵr budr yn mynd i mewn i gyrsiau dŵr. A allwch chi, ar ôl i mi ofyn yr un cwestiwn i chi fis yn ôl, Prif Weinidog, gadarnhau eich bod chi wedi ymgyfarwyddo â'r holl gynigion y mae Llywodraeth Cymru yn siarad amdan nhw, ac y bydd unrhyw ddatganiad y bydd y Gweinidog yn ei wneud yn cael ei wneud ar lawr y Siambr hon, nid mewn cyfnod o doriad, oherwydd difrifoldeb yr hyn sy'n cael ei drafod yn y fan yma? Fel y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi sôn, yn hytrach na dim ond edrych ar y ddau ddewis yr edrychodd Llywodraeth Cymru arnyn nhw, sef dull 'gwneud dim', neu ymarfer torri a gludo o amgylch parthau perygl nitradau, dylai Llywodraeth Cymru fod wedi ystyried dewisiadau eraill. Mae angen i'r datganiad hwnnw gael ei brofi gan Aelodau yn y Siambr hon, a bod y pryderon hynny gan y rheoleiddiwr ei hun yn cael eu cymryd i ystyriaeth.
Wel, Llywydd, gallaf roi sicrwydd i'r Aelod y cymerwyd pryderon y rheoleiddiwr i ystyriaeth. Dyna pam y gofynnwyd iddyn nhw rannu yn yr ymdrech o adolygu'r asesiad effaith rheoleiddiol drafft, ynghyd â rhanddeiliaid eraill, a phan gaiff y rheoliadau eu cyhoeddi, bydd asesiad effaith rheoleiddiol terfynol yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr ag ef i Aelodau yn y fan yma ei weld. Y rheswm pam mae rheoliadau'n angenrheidiol yw ein bod ni'n parhau, wythnos ar ôl wythnos, i weld achosion o lygredd amaethyddol yma yng Nghymru. Nid yw hynny'n dderbyniol; mae'n niweidio bioamrywiaeth, mae'n niweidio iechyd y cyhoedd, mae'n niweidio incwm ffermydd, mae'n niweidio dŵr yfed, ac mae'n rhaid i ni weithredu. Bydd y pwyntiau a wnaed gan y rheoleiddiwr yn cael eu hadlewyrchu yn yr asesiad effaith rheoleiddiol, a bydd digon o gyfle i Aelodau yn y fan yma holi Gweinidogion amdano ar ôl iddo gael ei gyhoeddi ac iddynt hwythau gael cyfle i'w ystyried.
Nid oes neb wedi cwestiynu pa un a oes angen rheoleiddio. Y cwestiwn yn y fan yma, wrth gwrs, yw cymesuredd y rheoliadau hynny. Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru, hyd yn oed, yn cytuno â dull eich Gweinidog ar gyfer dynodiad Cymru gyfan, ac mae'n sicr wedi bod yn fater o bryder a gohebiaeth i nifer enfawr o'm hetholwyr.
Fe godais gwestiynau difrifol gyda'r Gweinidog yr wythnos diwethaf, yn ystod cwestiynau, am y sail dystiolaeth y mae'r cynigion yr ydym ni wedi eu gweld hyd yn hyn yn seiliedig arnyn nhw. Rydym ni wir angen cyfle, rwy'n credu, pan gaiff y rheoliadau terfynol eu cyflwyno, i brofi'r rheini'n drwyadl iawn yma yn y Siambr hon. Dywedasoch wrthym y bydd datganiad yn cael ei wneud yn fuan. Hoffwn feddwl nad yw'r Llywodraeth hon mor sinigaidd ag i lithro datganiad ysgrifenedig allan yn ystod hanner tymor. Dylem ni, o leiaf, er mwyn sicrhau tryloywder ac atebolrwydd, gael datganiad llafar yn y fan yma. Byddai unrhyw beth yn llai na hynny yn fater o esgeulustod, a dweud y gwir, ac ni fyddai'n dderbyniol. Hwn yw'r mater unigol yr wyf i wedi cael y mwyaf o ohebiaeth yn ei gylch oddi wrth fy etholwyr ers misoedd lawer iawn. Os byddwch chi'n ceisio ei wneud yn y ffordd honno, rwy'n credu y byddai hynny'n wrthun.
Wel, Llywydd, bydd digon o gyfle i Aelodau yn y fan yma ofyn cwestiynau a chodi pryderon, fel y mae Aelodau yn ei wneud yma y prynhawn yma. Ni fydd unrhyw ddiffyg cyfle i Aelodau wneud eu gwaith o graffu ar Weinidogion a'u holi.
Ar fater parthau perygl nitradau, sawl gwaith pan fy mod i wedi ateb cwestiynau yn y fan yma yr wyf i wedi cael pregeth gan Aelodau Plaid Cymru ar barchu cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd. Bydd yr Aelod wedi gweld cyngor y Pwyllgor ar 23 Ionawr 2020, yn ei ddogfen 'Land use: Policies for a Net Zero UK'. Y polisi cyntaf un y mae'n dweud bod yn rhaid i ni ei gyflwyno yw arferion ffermio carbon isel. Mae'n dweud bod yn rhaid ymestyn parthau perygl nitradau cyn 2023 i gynnwys y Deyrnas Unedig gyfan.
Nawr, mae'n ysgwyd ei ben yn y fan yna, gan ei fod eisiau bod yn ddetholus. Rydych chi'n gweld, mae ef eisiau rhoi pregeth i mi ynglŷn â gwneud yn siŵr bod y Llywodraeth hon yn cymryd y cyngor ac yn gweithredu arno, ac yna'n ein cyhuddo ni o beidio â gweithredu'n ddigon cyflym arno, ond pan nad yw'n hoffi eu cyngor, mae eisiau i ni ei wrthod. Ni fyddwn yn gwneud hynny, Llywydd. Rydym ni'n dibynnu ar gyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, ac mae eu cyngor ar y mater hwn yn eglur ac yn bendant.
Rwyf i wedi ysgrifennu at Weinidog yr amgylchedd yn gofyn am gyfarfod gydag aelodau ffermio NFU Cymru i drafod y rheoliadau hyn, ac rwy'n aros am ymateb. Rwy'n credu bod y cwestiynau heddiw yn dangos bod angen craffu ar y rheoliadau hyn. Rwyf i wedi cynnal cyfarfodydd gydag aelodau NFU Caerffili a chydag Undeb Amaethwyr Cymru i drafod eu pryderon. Ar ffermydd llai, fel y rhai ym Medwas a Llanbradach, byddai'r rheoliadau, fel y'u cynigiwyd yn wreiddiol, yn achosi baich ariannol annioddefol.
Fodd bynnag, mae angen i ni hefyd fynd i'r afael â phroblemau fel y gwaith gwasgaru slyri ar raddfa ddiwydiannol sy'n cael ei redeg gan Grŵp Bryn ar Fferm Gelliargwellt Uchaf sy'n achosi problemau i bobl yng Ngelligaer a Phen-y-Bryn. Rwyf i wedi cyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru a chyngor Caerffili, ac maen nhw'n teimlo bod bwlch yn y rheoliadau yno sy'n eu hatal rhag cymryd camau yn yr achosion hynny.
Felly, rwy'n credu bod angen i ni ddod o hyd i gydbwysedd—cydbwysedd synhwyrol—rhwng peidio â rhoi'r ffermydd hynny fel Bedwas a Llanbradach dan anfantais a'u niweidio ac ymdrin â ffermydd graddfa ddiwydiannol fel Fferm Gelliargwellt Uchaf. A all y Prif Weinidog roi syniad i ni o sut y gellir sicrhau cydbwysedd synhwyrol?
Diolchaf i Hefin David am hynna. Mae'n iawn, wrth gwrs: Rydym ni eisiau dull cytbwys a chymesur. Ond, y ffordd yr ydych chi'n cael cydbwysedd a chymesuredd yn y fan yma yw cael un llyfr rheolau yr ydych chi'n ei gymhwyso'n wahaniaethol wedyn o dan wahanol amgylchiadau gwahanol fathau a natur o ffermydd. Dyna y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio arno, a phan fyddwn ni'n barod i gyhoeddi'r rheoliadau, dyna fydd yr Aelod yn ei weld. Ond nid yw'n fater o un rheol sy'n addas i bawb. Mae'n gyfres sengl a chyffredin o reolau, ond bydd y ffordd y byddwch chi'n eu cymhwyso yn gymesur ac yn gytbwys, a bydd yn adlewyrchu anghenion ac amgylchiadau ffermydd penodol ac i ba raddau y maen nhw'n gwneud gyfraniad at y broblem real iawn o lygredd amaethyddol.