Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 11 Chwefror 2020.
Diolchaf i'r Aelod am hynna, Llywydd. Mae llygredd amaethyddol yn effeithio ar iechyd ac ansawdd ein hafonydd, ein llynnoedd a'n nentydd ledled Cymru. Mae dŵr glân yn hanfodol i'n bywydau ni i gyd. Mae'n rhaid i ni gymryd camau cymesur, wedi'u targedu, i fynd i'r afael â'r broblem. Bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad ar y ffordd ymlaen yn fuan, yng ngoleuni'r dystiolaeth.