Rheolau Dŵr Newydd Arfaethedig

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 11 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 2:28, 11 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Rwyf i wedi ysgrifennu at Weinidog yr amgylchedd yn gofyn am gyfarfod gydag aelodau ffermio NFU Cymru i drafod y rheoliadau hyn, ac rwy'n aros am ymateb. Rwy'n credu bod y cwestiynau heddiw yn dangos bod angen craffu ar y rheoliadau hyn. Rwyf i wedi cynnal cyfarfodydd gydag aelodau NFU Caerffili a chydag Undeb Amaethwyr Cymru i drafod eu pryderon. Ar ffermydd llai, fel y rhai ym Medwas a Llanbradach, byddai'r rheoliadau, fel y'u cynigiwyd yn wreiddiol, yn achosi baich ariannol annioddefol.

Fodd bynnag, mae angen i ni hefyd fynd i'r afael â phroblemau fel y gwaith gwasgaru slyri ar raddfa ddiwydiannol sy'n cael ei redeg gan Grŵp Bryn ar Fferm Gelliargwellt Uchaf sy'n achosi problemau i bobl yng Ngelligaer a Phen-y-Bryn. Rwyf i wedi cyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru a chyngor Caerffili, ac maen nhw'n teimlo bod bwlch yn y rheoliadau yno sy'n eu hatal rhag cymryd camau yn yr achosion hynny.

Felly, rwy'n credu bod angen i ni ddod o hyd i gydbwysedd—cydbwysedd synhwyrol—rhwng peidio â rhoi'r ffermydd hynny fel Bedwas a Llanbradach dan anfantais a'u niweidio ac ymdrin â ffermydd graddfa ddiwydiannol fel Fferm Gelliargwellt Uchaf. A all y Prif Weinidog roi syniad i ni o sut y gellir sicrhau cydbwysedd synhwyrol?