Y Gig

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 11 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:30, 11 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar iawn am eich ymateb, Prif Weinidog. Mae'n siŵr eich bod yn ymwybodol ein bod ni yn y bumed flwyddyn o fesurau arbennig o ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y gogledd. Ac, mewn nifer o ffyrdd, mae pobl yn teimlo bod ymadawiad diweddar y prif weithredwr yn mynd â ni'n ôl i'r cychwyn o ran y gwelliant y mae angen i ni ei weld yn ein gwasanaethau iechyd meddwl. 

Rydych chi'n cyfeirio at y trefniadau tridarn o ran adolygu'r lefelau ymyrraeth ar gyfer sefydliadau'r GIG. Pa ystyriaeth a roddir yn y cyfarfodydd arbennig hynny pan geir adroddiadau sy'n amlwg yn cael eu cadw gan y bwrdd iechyd, sy'n adroddiadau beirniadol—roedd adroddiad annibynnol ar therapïau seicolegol—nad oedd yn cael eu rhannu â naill ai Swyddfa Archwilio Cymru na Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, er mwyn eu cynorthwyo i roi gwybodaeth i Lywodraeth Cymru, a rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ar lefel yr ymyrraeth yn y gogledd? Rwy'n bryderus iawn am hynny. Rwyf wedi cael cadarnhad ysgrifenedig na chafodd y wybodaeth honno ei rhannu. Mae hyn yn hanfodol os ydym ni am sicrhau bod y sefydliad hwn yn y gogledd yn cael ei roi yn ôl mewn trefn, er mwyn iddo allu rhoi i gleifion y lefel o wasanaeth y maen nhw'n ei haeddu.

Felly, pa gamau fydd eich Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau, pan fydd adroddiadau o'r fath yn cael eu cyhoeddi yn y dyfodol, eu bod bob amser yn cael eu rhannu gyda'r sefydliadau hynny sy'n rhoi cyngor i chi ar y trefniadau mesurau arbennig?