Y Gig

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 11 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

6. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effeithiolrwydd ymyrraeth Llywodraeth Cymru yn y GIG? OAQ55075

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:30, 11 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am hynna. Nid Llywodraeth Cymru yn unig sydd yn asesu trefniadau ymyrraeth. Canlyniad y strwythur tridarn ydyn nhw, sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru. Mae'r fforwm hwnnw'n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn i ystyried ystod eang o wybodaeth, i lywio'r asesiad o ymyrraeth y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu arno wedyn.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar iawn am eich ymateb, Prif Weinidog. Mae'n siŵr eich bod yn ymwybodol ein bod ni yn y bumed flwyddyn o fesurau arbennig o ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y gogledd. Ac, mewn nifer o ffyrdd, mae pobl yn teimlo bod ymadawiad diweddar y prif weithredwr yn mynd â ni'n ôl i'r cychwyn o ran y gwelliant y mae angen i ni ei weld yn ein gwasanaethau iechyd meddwl. 

Rydych chi'n cyfeirio at y trefniadau tridarn o ran adolygu'r lefelau ymyrraeth ar gyfer sefydliadau'r GIG. Pa ystyriaeth a roddir yn y cyfarfodydd arbennig hynny pan geir adroddiadau sy'n amlwg yn cael eu cadw gan y bwrdd iechyd, sy'n adroddiadau beirniadol—roedd adroddiad annibynnol ar therapïau seicolegol—nad oedd yn cael eu rhannu â naill ai Swyddfa Archwilio Cymru na Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, er mwyn eu cynorthwyo i roi gwybodaeth i Lywodraeth Cymru, a rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ar lefel yr ymyrraeth yn y gogledd? Rwy'n bryderus iawn am hynny. Rwyf wedi cael cadarnhad ysgrifenedig na chafodd y wybodaeth honno ei rhannu. Mae hyn yn hanfodol os ydym ni am sicrhau bod y sefydliad hwn yn y gogledd yn cael ei roi yn ôl mewn trefn, er mwyn iddo allu rhoi i gleifion y lefel o wasanaeth y maen nhw'n ei haeddu.

Felly, pa gamau fydd eich Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau, pan fydd adroddiadau o'r fath yn cael eu cyhoeddi yn y dyfodol, eu bod bob amser yn cael eu rhannu gyda'r sefydliadau hynny sy'n rhoi cyngor i chi ar y trefniadau mesurau arbennig?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:32, 11 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Aelod am hynna. Fel y dywedais yr wythnos diwethaf yn y Siambr, yr oedd yr adolygiad o therapïau seicolegol yn adolygiad a gomisiynwyd gan y bwrdd iechyd ei hun, ac a gynhaliwyd yn annibynnol i sicrhau bod y bwrdd iechyd yn cael yr wybodaeth orau. A'm dealltwriaeth i yw mai bwriad y bwrdd iechyd oedd cyhoeddi'r adroddiad hwnnw ar ôl iddyn nhw gael cyfle priodol i graffu arno a bod yn barod i ymateb iddo.

A lle rwy'n cytuno'n llwyr â Darren Millar yw y dylai'r adroddiad gael ei gyhoeddi, ac yna mae'n rhaid i'r adroddiad hwnnw fod ar gael i'r cyfarfodydd tridarn sy'n barnu ar ba un a ddylid lleihau statws uwchgyfeirio, fel y bu mewn dau fwrdd iechyd yng Nghymru yn ddiweddar, pa un a yw'r bwrdd iechyd angen ymyrraeth a chymorth pellach, neu pa un a ddylid gadael pethau fel y maen nhw, fel y maen nhw'n ei wneud gyda saith o'r 11 bwrdd iechyd yng Nghymru sydd ar y lefel isaf o ymyrraeth. I wneud y penderfyniadau hynny, maen nhw angen yr ystod ehangaf posibl o wybodaeth, a dylai adroddiadau o'r math hwn—pan fydd y bwrdd iechyd mewn sefyllfa i'w cyhoeddi, wrth gwrs, fod ar gael iddynt.