Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 11 Chwefror 2020.
Diolch i'r Aelod am hynna. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar fesurau ymarferol i wella profiad preswylwyr cartrefi gofal, er enghraifft, drwy atal codymau, lleihau briwiau pwyso a gwella gofal dementia. Mae'n buddsoddi yn sgiliau a galluoedd staff mewn cartrefi gofal, o reolwyr profiadol i weithwyr sydd newydd eu recriwtio ar ddechrau eu gyrfaoedd.