Gwella Cartrefi Gofal Cymru

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 11 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am raglen Gwella Cartrefi Gofal Cymru? OAQ55076

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:37, 11 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am hynna. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar fesurau ymarferol i wella profiad preswylwyr cartrefi gofal, er enghraifft, drwy atal codymau, lleihau briwiau pwyso a gwella gofal dementia. Mae'n buddsoddi yn sgiliau a galluoedd staff mewn cartrefi gofal, o reolwyr profiadol i weithwyr sydd newydd eu recriwtio ar ddechrau eu gyrfaoedd.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae'r cynllun gwella iechyd y geg Gwên am Byth yn rhan annatod o raglen gwella cartrefi gofal Cymru. Mae'r cynllun yn rhoi hyfforddiant i staff yng ngofal y geg, cynhelir asesiadau risg llafar, sy'n arwain at gynllun gofal unigol, a bydd y preswylwyr yn cael adnoddau gofal y geg priodol ar gyfer eu cynllun gofal, megis brwsh dannedd a phast dannedd â fflworid uchel. Canfûm, ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2019, fod 10,228 o breswylwyr mewn 287 o gartrefi yn cymryd rhan lawn yn y rhaglen. Fodd bynnag, dim ond 55 y cant oedd yn darparu cynllun gofal y geg. Pa gamau fyddwch chi yn eu cymryd i sicrhau bod iechyd y geg y 4,558 o unigolion nad oes ganddynt gynllun iechyd gofal y geg ar waith, sydd yn ôl pob tebyg yn cymryd rhan yn y rhaglen hon—y byddan nhw'n cael y driniaeth hon mewn gwirionedd?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:38, 11 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am dynnu sylw at y rhaglen Gwên am Byth, rhaglen bwysig iawn gan Lywodraeth Cymru. Deilliodd y rhaglen o waith gan Sarah Rochira, y Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru blaenorol, ac roedd ei hadroddiad, fe gofiwch, yn canolbwyntio ar y pethau bach iawn sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau preswylwyr cartrefi gofal. A thynnodd hi sylw at y gwasanaethau gofal sylfaenol elfennol hynny—offthalmoleg, gwasanaethau deintyddol—a'r rhaglen Gwên am Byth yw canlyniad hynny. Cafodd ei roi ar brawf mewn cartrefi gofal a gyda'r gwasanaethau deintyddol cymunedol, ac erbyn hyn mae gennym ni becyn cymorth cenedlaethol ar gyfer iechyd y geg. Cyhoeddodd fy nghyd-Aelod Vaughan Gething gyllid ychwanegol ar gyfer y rhaglen hon ddiwedd y llynedd, gan y profwyd ei bod yn llwyddiant, mae'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau'r preswylwyr cartrefi gofal hynny, ac rydym ni eisiau ei gweld yn digwydd ym mhob cartref gofal yng Nghymru.