Gwasanaethau Bysiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 11 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 2:34, 11 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol nad oes gennyf i, na llawer o fy nghyd-aelodau yn y fan yma sydd o gymoedd y De—y dewisiadau ar gyfer trenau mewn llawer o'r cymoedd hyn; y bws yw'r un allweddol bwysig os ydym ni eisiau annog pobl i wneud y newid moddol hwnnw i gludiant cyhoeddus, gyda'r cynnydd mewn newid yn yr hinsawdd, ond ffordd wahanol o deithio hefyd. Ond y realiti, rwy'n credu, yw na allwn ni wneud hynny oni bai ein bod yn gwrthdroi'r dadreoleiddio trychinebus o fysiau a ddigwyddodd ddegawdau yn ôl, a'n bod ni'n gallu rhoi ar waith, ochr yn ochr â metro'r de, y math o rwydwaith o fysiau cynlluniedig, strategol a lleol, a fydd yn gallu mynd â phobl i'r gwaith ar amser, i'w hapwyntiad yn yr ysbyty, ac i'r feddygfa, ac i gymdeithasu, ac i ymdrin ag ynysigrwydd hefyd.

Felly, hoffwn ofyn iddo beth yw ei farn ef ynghylch y sefyllfa sy'n dod i'r amlwg o amgylch cyfundrefn sydd wedi'i chynllunio'n well, a gwrthdroi'r dadreoleiddio a welsom. Ac a gaf i ofyn iddo hefyd, nawr ein bod wedi cael cyhoeddiad gan Brif Weinidog y DU ar y cannoedd o filiynau o bunnoedd a allai fod yma ar gyfer HS2, ac o beth rwy'n deall, gallai fod arian ychwanegol ar gyfer bysiau yn Lloegr, a yw Llywodraeth Cymru wedi cael gwybod pa un a fydd gennym ni swm canlyniadol yn unol â fformiwla Barnett y gellir ei drosglwyddo i drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru?