6. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Grant Cymorth Tai

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 11 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 4:42, 11 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae cael cartref eich hun wrth wraidd bywyd hapus a chynhyrchiol. Mae'r Llywodraeth hon yn credu y dylai pawb gael cartref cynnes a gweddus, ond i lawer nid dyna'r sefyllfa.

I lawer, mae digartrefedd a bygythiad digartrefedd yn real iawn. Gall poeni ynghylch sut i dalu eu rhent, sut i ymdrin â chais am fudd-dal neu sut i ddod o hyd i wely am noson achosi pryder a straen cyson. Mae'r achosion yn amrywiol ac yn gymhleth. Gallai fod yn ganlyniad i gyfnod yn y system ofal yn y gorffennol, heb rwydweithiau cymorth o deulu a ffrindiau, gallai fod o ganlyniad i newid mewn amgylchiadau, megis colli swydd neu chwalu perthynas. Gall trawma digartrefedd yn aml arwain at broblemau afiechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau neu waethygu problemau sy'n bodoli eisoes. Un o'r egwyddorion polisi allweddol sy'n sail i'n hymagwedd at atal digartrefedd yw ein bod yn mynd ati mewn modd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn seiliedig ar drawma er mwyn deall gwraidd y broblem ac atal digartrefedd rhag dod yn realiti.

Mae'r grant cynnal tai yn un o raglenni grant mwyaf sylweddol Llywodraeth Cymru, a'i nod yw mynd i'r afael â digartrefedd. Mae'n rhoi dros £126 miliwn yn nwylo awdurdodau lleol bob blwyddyn. Yn eu tro, maen nhw yn comisiynu miloedd o brosiectau, gan ddarparu gwasanaethau i ddegau o filoedd o bobl i leihau'r pryder a'r straen a wynebant, gan eu helpu i osgoi digartrefedd, a thrwy ddarparu cymorth parhaus lle y bo angen i sicrhau y gellir cynnal cartref yn y tymor hwy. Mae'n darparu gwasanaethau i atal digartrefedd lle bynnag y bo'n bosib a, lle nad oes modd gwneud hynny, mae'n sicrhau bod digartrefedd yn beth brin, yn fyrhoedlog ac yn rhywbeth nad yw'n digwydd eto.

Mae'r grant cymorth tai yn dwyn ynghyd dri grant a oedd yn bodoli'n barod: Cefnogi Pobl, elfennau o'r grantiau atal digartrefedd, a chyllid gorfodi Rhentu Doeth Cymru. Mae'n rhan o brosiect alinio cyllid ehangach sy'n ceisio creu rhaglenni mwy cydlynol sy'n lleihau biwrocratiaeth ac yn cynyddu arloesedd. Nodweddir y grant cymorth tai gan fanyleb fwy hyblyg, sy'n caniatáu i awdurdodau greu a mabwysiadu dulliau gweithredu newydd. Yn bwysig ddigon, mae'n rhoi rheidrwydd ar i awdurdodau ymateb i ddigartrefedd mewn modd cynhwysfawr—ymateb mewn modd sy'n canolbwyntio nid yn unig ar ddiffiniadau statudol o ddigartrefedd, ond hefyd ar yr achosion sylfaenol. Mae hyn yn hwyluso'r ymyriadau cynharaf, y gwyddom mai nhw yw'r rhai mwyaf effeithiol a'r rhai mwyaf darbodus.

Cynlluniwyd y grant cymorth tai i ddarparu effaith gynaliadwy a all fynd i'r afael â'r profiadau niweidiol yn ystod plentyndod sydd yn aml wrth wraidd yr agweddau sy'n arwain at ddigartrefedd. Drwy wneud hynny mae'n caniatáu i awdurdodau lleol ganolbwyntio ar waith atal gwirioneddol, y mae ei effaith yn lleihau'r galw ar wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a chyfiawnder troseddol. Fe'i cynlluniwyd i gefnogi'r egwyddorion polisi a nodir yn ein strategaeth ar gyfer atal a rhoi terfyn ar ddigartrefedd.

Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer y grant cymorth tai, a fydd yn newid y ffordd yr ydym yn ymdrin â'r gwasanaeth cyhoeddus pwysig hwn. Mae'r grant newydd yn seiliedig ar un system gynllunio strategol, sy'n adeiladu ar ddyletswydd bresennol awdurdodau lleol i gynhyrchu strategaeth ddigartrefedd. Mae hyn yn sicrhau y gellir cyfeirio adnoddau at y fan yn y system dai lle maen nhw'n cael yr effaith fwyaf. Rydym yn gwybod nad yw darparu cyllid yn unig yn ddigon; mae'n rhaid inni hefyd gael fframwaith sy'n caniatáu gwneud penderfyniadau da.

Mae'r ffydd sydd gennyf fod y grant cymorth tai yn darparu fframwaith o'r fath wedi ei gryfhau gan raddau'r ymgysylltu a fu â rhanddeiliaid. Rydym ni wedi gweithio'n galed i wneud yn siŵr ein bod yn gweithio yn ysbryd pum ffordd o weithio deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Gellir disgrifio'r cyngor sy'n deillio o hynny fel cyngor a luniwyd ar y cyd ac felly y mae wedi rhoi prawf llawn ar y cwestiwn: a ellir cyflawni hyn yn ymarferol?

Mae'r cyngor hwn wedi arwain at fframwaith sy'n seiliedig ar integreiddio a chydweithredu. Mae'r canllawiau yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol ymgynghori â rhanddeiliaid yn sail i'w strategaeth leol. Mae hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol weithio ar y cyd ar draws eu rhanbarthau a chyda phartneriaid allweddol i gyflawni gweledigaeth draws-sector. Mae'r grwpiau cydweithredol cymorth tai rhanbarthol newydd yn cynnwys aelodaeth eang gan gynnwys comisiynwyr heddlu a throsedd, byrddau cynllunio ardal camddefnyddio sylweddau a defnyddwyr gwasanaethau. Mae hyn yn cydnabod bod digartrefedd yn broblem gwasanaeth cyhoeddus ac na ellir mynd i'r afael ag ef drwy dai yn unig. O ganlyniad bydd gwasanaethau'n gydgysylltiedig ac yn cynnig ymateb mwy di-dor i anghenion y defnyddiwr.

Rwy'n awyddus hefyd i sicrhau bod gennym ni sector darparu bywiog a chynaliadwy, ac nad yw'r berthynas bwysig rhwng y darparwr a'r defnyddiwr yn cael ei thorri heb bwrpas, a bod contractau'n adlewyrchu costau gwirioneddol darparu gwasanaethau. Rwy'n arbennig o falch bod y canllawiau'n adlewyrchu ein hegwyddorion gwaith teg. Mewn amgylchedd cyllido sydd wedi cael ei gyfyngu cymaint, caiff y pwysau yn aml ei deimlo yn nhelerau ac amodau'r gweithwyr ymroddedig sydd wrth galon gwasanaethau. Er fy mod i wedi ymrwymo i gynnig gwasanaethau i gynifer o bobl â phosib, rwy'n credu'n gryf mai economi ffug yw gwneud hynny ar draul cynnig cyflog byw i staff y gwasanaethau. Byddwn yn defnyddio'r grant cymorth tai fel cyfrwng arbrofi i ddangos y gall comisiynu a chaffael ddarparu gwaith teg.

Mae'r grant cymorth tai yn newid y berthynas rhwng llywodraeth ganolog a llywodraeth leol mewn ffordd sy'n cefnogi newid diwylliannol o fewn awdurdodau. Mae'n creu'r lle iddyn nhw lunio ymateb y gwasanaeth i ddigartrefedd ac atal digartrefedd. Mae'r newid diwylliannol hwn yn dechrau gyda'r fframwaith ond bydd angen cymorth a her barhaus i'w wireddu. Bydd gwaith y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd yn darparu mewnbwn hanfodol i gefnogi'r newid hwn. Rwy'n gwybod y bydd Aelodau eisiau gwneud eu rhan yn y broses honno ac rwyf eisiau profi ein llwyddiant mewn perthynas â'n bwriad i wneud digartrefedd yn beth prin ac yn fyrhoedlog ac yn rhywbeth nad yw'n digwydd eto yng Nghymru. Diolch.