7. Dadl: Adroddiad Blynyddol y Rhaglen Lywodraethu a Rhaglen Ddeddfwriaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 11 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 5:35, 11 Chwefror 2020

Diolch, Llywydd. Piwis, wrth gwrs, fyddai peidio ag adnabod llwyddiannau'r Llywodraeth, sydd yn cael eu gosod mas yn yr adroddiad blynyddol yma, ac, wrth gwrs, pan fo lle i gytuno er lles pobl Cymru, hyd yn oed fel gwrthbleidiau, mae'n bwysig i wneud hynny. Dyna pam y rhoesom ni fel plaid gefnogaeth, yr haf diwethaf, i rai o'r mesurau yn y datganiad deddfwriaethol. Ond rhaid gochel, wrth gwrs, rhag gadael i'r clodwiw ein dallu i ddiffygion, a'r angen am newid trawsnewidiol. Dyna, wrth gwrs, i ni, ydy'r gwendid amlycaf yn holl strategaeth y Llywodraeth at ei gilydd.

Mae'r gwelliannau yn ffocysu ar ddau brif fater, a dweud y gwir, hynny yw y berthynas rhwng addewidion ym maniffesto personol y Prif Weinidog a'r rhaglen lywodraethol, ac, yn ail, yr angen am nifer gweddol gyfyngedig o ddangosyddion er mwyn cael tryloywedd a'r gallu i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif yn effeithiol, nid yn unig o ran gwrthbleidiau, ond yn bwysicach na hynny o ran dinasyddion.

Mae'r ddogfen yma yn cynrychioli'r cyfle cyntaf inni weld yn glir ble mae blaenoriaethau'r Prif Weinidog, ac mae hynny i'w groesawu o ran yr eglurder y mae e'n rhoi inni. Ond mae'r cwestiwn yma, dwi'n credu, o ran perthynas yr addewidion yr oedd y Prif Weinidog wedi'u gosod mas yn ystod ei ymgyrch ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur a rhaglen y Llywodraeth yn un mae angen cael ychydig bach mwy o eglurder ynglŷn â fe. Mân beth, efallai, o ran yr ieithwedd sy'n cael ei defnyddio—hynny yw, mae atodiad y ddogfen yn sôn am ymrwymiad maniffesto arweinyddiaeth Prif Weinidog Cymru. Wel, maniffesto, wrth gwrs, ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur oedd e.