Part of the debate – Senedd Cymru am 6:11 pm ar 11 Chwefror 2020.
Rydych chi'n cyfeirio at yr argyfwng newid yn yr hinsawdd. Wrth gwrs, un o'r pethau sydd wedi ei nodi ynghylch gweithredoedd eich Llywodraeth chi hyd yn hyn ar y mater hwn, yw'r ffaith eich bod chi'n rhoi cymorthdaliadau sylweddol, i bob pwrpas, i Faes Awyr Caerdydd trwy fenthyciadau a chadw'r lle hwnnw yn gweithredu, ond wrth gwrs, trafnidiaeth awyr yw'r math o drafnidiaeth sy'n llygru fwyaf. Felly, sut y mae hynny'n cyd-fynd â gweithredoedd eich Llywodraeth?