Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 12 Chwefror 2020.
Lynne, ers i chi a minnau lansio'r canllawiau hynny ym mis Medi, mae copïau caled wedi'u dosbarthu i ysgolion, ac maent hefyd ar gael ar-lein ar blatfform Hwb ac ar wefan Llywodraeth Cymru. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i godi ymwybyddiaeth o'r mater hwn fel rhan o'n dull ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol.