Mercher, 12 Chwefror 2020
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw cwestiynau i'r Gweinidog Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Joyce Watson.
1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion? OAQ55082
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu addysg ôl-16 i ddysgwyr ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ55084
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
3. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod pob awdurdod lleol ac ysgol yn defnyddio'r canllawiau newydd ar siarad am hunanladdiad a hunan-niweidio mewn ysgolion? OAQ55100
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid ar gyfer darparwyr addysg yng ngogledd-ddwyrain Cymru? OAQ55078
Diolch, Llywydd. Mae'n werth aros amdano fe hefyd, os caf i ddweud—[Chwerthin.]
7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am addysgu perthynas mewn ysgolion? OAQ55087
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd prawf i wneud diagnosis o ddyslecsia ar gyfer plant sy'n siarad Cymraeg? OAQ55072
9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraddau presenoldeb mewn ysgolion yn Abertawe? OAQ55080
Mae'r cwestiynau nesaf, felly, i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jayne Bryant.
1. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r defnydd o'r celfyddydau i wella iechyd a lles mewn lleoliadau gofal cymdeithasol? OAQ55095
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau mân anafiadau yng ngogledd-ddwyrain Cymru? OAQ55077
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Angela Burns.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am therapïau seicolegol yng ngogledd Cymru? OAQ55073
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau staffio mewn lleoliadau gofal iechyd cymunedol? OAQ55071
5. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wella cyfraddau sgrinio ceg y groth yng Nghymru? OAQ55070
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am recriwtio a hyfforddi deintyddion yng ngogledd Cymru? OAQ55079
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau iechyd yng ngorllewin Cymru dros y 12 mis nesaf? OAQ55067
8. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i osgoi presenoldeb diangen y gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru? OAQ55088
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, gwelliant 2 yn enw Siân Gwenllian, gwelliant 3 yn enw Neil McEvoy, a gwelliant 4 yn enwau Mick Antoniw, Dawn Bowden, Huw...
Yr eitem nesaf yw'r cwestiynau amserol, ac ni ddewiswyd rhai heddiw.
Felly'r datganiadau 90 eiliad sydd nesaf. Dwi'n galw ar Vikki Howells.
Eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): gwasanaethau cyhoeddus ar-lein ac all-lein, a galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gyflwyno'r cynnig. Rhun.
Eitem 7 ar yr agenda yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Gwaith dilynol ar gysgu ar y stryd: Gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau camddefnyddio...
Symudwn yn awr at y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n bwriadu galw'r bleidlais gyntaf. Na. Iawn. O'r gorau. Y bleidlais gyntaf y prynhawn yma,...
Felly, symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Alun Davies, sy'n fwy na pharod i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo. [Chwerthin.] Mr Davies.
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo ysgolion yn Islwyn wrth iddynt baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o honiadau llawfeddyg cyffredinol yr Unol Daleithiau nad yw e-sigaréts yn ddiogel i bobl ifanc?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael i blant mewn gofal?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia