Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 12 Chwefror 2020.
Lywydd, rhag ofn i’r Aelod fethu hyn y tro cyntaf, rwy'n hynod falch fod Coleg Merthyr Tudful yn destun enwebiadau o'r fath. Ac fel y dywedais yn fy ateb blaenorol, rwy'n dymuno'n dda iddynt—yn ogystal â Choleg Gŵyr, Coleg Penybont, Coleg Caerdydd a Fro, a thîm adeiladu a pheirianneg Dolgellau o Grŵp Menai Llandrillo—yn y gwobrau hynny.