Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 12 Chwefror 2020.
Rwy’n fwy na pharod i edrych ar y pwynt penodol hwnnw, o ran perthnasedd deddfwriaeth cam-drin domestig mewn perthynas ag ysgolion, ond gadewch imi fod yn hollol glir ac ailadrodd unwaith eto: mae gennym eisoes ganllawiau 'Cadw dysgwyr yn ddiogel' cynhwysfawr iawn. Mae’n rhaid i bob ysgol gydymffurfio â hwy, boed yn ysgolion annibynnol neu’n ysgolion a gynhelir. Os na all ysgol annibynnol fy modloni o ran hynny, yn y pen draw, gallwn ddiddymu cofrestriad yr ysgol honno, ond rwy'n fwy na pharod i edrych ar y pwynt y mae'r Aelod yn ei godi.