Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 12 Chwefror 2020.
Mae'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2020-21 yn amlinellu fy mlaenoriaethau ar gyfer cyllid addysg fel y'u nodir yn 'Cenhadaeth ein cenedl', sy'n cynnwys cyllid ar gyfer darparwyr addysg yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Mae'r gyllideb hon yn parhau i fod yn ymrwymedig i lwyddiant a lles pob dysgwr, ni waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau personol, nac ym mha ran o Gymru y maent yn astudio ac yn dysgu.