Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 12 Chwefror 2020.
Wel, Mark, fel rydych yn ei nodi, yn anffodus, mater i Gyngor Sir y Fflint yn bennaf yw cyllido ysgolion uwchradd yn sir y Fflint. Mae sir y Fflint yn derbyn cynnydd canrannol yn eu cyllideb o dros 3.5 y cant, a mater iddynt hwy yn awr yw penderfynu ar y ffordd orau i ddefnyddio'r adnoddau hynny.