Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 12 Chwefror 2020.
Lynne, yn ôl ym mis Medi, cafodd y canllawiau gyhoeddusrwydd yn ein cylchlythyr wythnosol, Dysg, i bob ysgol. Rydym wedi defnyddio amrywiaeth o blatfformau Llywodraeth Cymru i dynnu sylw, nid yn unig ysgolion, ond y gymuned ehangach, at argaeledd y canllawiau. Rwy'n falch iawn o ddweud ein bod wedi cael traffig sylweddol, o ran cliciau, ar y canllawiau penodol hynny ar ein gwefan Hwb, ac rydym wedi cael nifer o geisiadau am gopïau ychwanegol o'r canllawiau gan ysgolion unigol. Ddiwedd mis Mawrth, byddwn yn cynnal cynhadledd gyda phenaethiaid yr holl ysgolion uwchradd ac rwyf wedi gofyn i'r digwyddiad gael ei ddefnyddio i hyrwyddo argaeledd y canllawiau ymhellach ac i ystyried eu defnyddioldeb a'u defnydd gan yr ysgolion hynny.