Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 12 Chwefror 2020.
Rydych yn llygad eich lle, Dai, i dynnu sylw at duedd nid yn unig yn Abertawe ond ledled Cymru, fod mwy o dueddiad tuag at absenoldeb mewn ysgolion sy'n gweithio gyda'n cymunedau mwyaf difreintiedig. Mae deall anghenion dysgwyr unigol a darparu'r gefnogaeth gywir ar yr adeg gywir i sicrhau eu bod yn mynychu'r ysgol yn gallu gwneud byd o wahaniaeth. Fel yr amlinellwch yn hollol gywir, bydd presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol yn cael effaith ddramatig ar allu'r plentyn i gael y gorau o addysg a chyflawni ei botensial.
Un ffordd rydym yn edrych arni i gefnogi hyn yw drwy elfen fwyaf newydd ein grant datblygu disgyblion, yr elfen fynediad, sydd wedi'i chyflwyno i gynorthwyo rhieni a gofalwyr yn uniongyrchol gyda rhai o gostau'r diwrnod ysgol, a allai fod yn rheswm pam fod plant yn teimlo na allant fynd i’r ysgol weithiau, boed hynny oherwydd nad oes ganddynt wisg ysgol gywir neu oherwydd nad oes ganddynt y cit cywir, yr offer ysgol cywir, a gallai hynny fod yn rhwystr go iawn iddynt rhag mynychu’r ysgol.
Rydym wedi gweithio gyda Plant yng Nghymru hefyd i gynhyrchu canllawiau i ysgolion ynglŷn â gwybod sut y gall penderfyniadau y gall ysgol eu gwneud ddylanwadu ar blentyn sy'n dod i'r ysgol. Felly, er enghraifft, er bod llawer o gyfleoedd i'w cael o ddathlu Diwrnod y Llyfr, gall y pwysau ar riant i ddarparu gwisg ar gyfer eu plentyn olygu na fydd y plentyn yn mynd i’r ysgol y diwrnod hwnnw. Felly, gall bod yn ymwybodol o rai o'r penderfyniadau hyn a sut y mae'r ysgol yn trefnu ei hun wneud gwahaniaeth sylweddol. Nid yw hynny'n golygu na all ysgolion fod yn greadigol. Yn ddiweddar, ymwelais ag ysgol yn etholaeth Ogwr sy'n chwarae rhan lawn yn Niwrnod y Llyfr—mae ganddynt gwpwrdd dillad yn llawn o wisgoedd y gall plant ddod i'r ysgol a dewis o'u plith fel nad ydynt yn teimlo bod angen iddynt gael eu heithrio o'r gweithgareddau hynny. Felly, mae angen i ysgolion, awdurdodau lleol, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, fod yn ymwybodol o'r rhwystrau a chydweithio i'w chwalu.