Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 12 Chwefror 2020.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae'n ffaith y bydd gan dri phlentyn ddyslecsia o ryw fath yn y rhan fwyaf o ddosbarthiadau. Mae'n eithaf brawychus, mae'n rhaid i mi ddweud, er bod prawf sgrinio, nad oes prawf diagnostig ar gyfer plant sy'n defnyddio'r Gymraeg. Rwy'n clywed bod eich adran yn rhoi rhai camau ar waith i ddeall beth yw'r anghenion, ond a allwch chi gynnig unrhyw gysur inni y gallai fod rhywfaint o gymorth yn y maes penodol hwn cyn diddymu'r Cynulliad y flwyddyn nesaf? Oherwydd ar hyn o bryd, mae carfan enfawr o blant ar hyd a lled Cymru, yn enwedig wrth i addysg cyfrwng Cymraeg gynyddu, dan anfantais a bydd yr anfantais honno’n parhau drwy gydol eu hoes oni bai eu bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt drwy'r system addysg.