Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 12 Chwefror 2020.
Ddirprwy Weinidog, mae cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol yn grymuso pobl sy'n byw gyda dementia ac yn cyfoethogi bywyd iddynt hwy a'r rhai sydd o'u cwmpas. Mae'r elusen, Arts 4 Dementia, yn helpu i ddatblygu gweithgareddau mewn lleoliadau celf i fywiogi ac ysbrydoli pobl yng nghamau cynnar dementia a'u gofalwyr fel bod y rhai sydd ei angen yn gallu dod o hyd i ysgogiad artistig ar ffurf celf o'u dewis yn agos at ble maent yn byw. Ddirprwy Weinidog, pa gefnogaeth ac anogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu i sefydliadau fel Arts 4 Dementia i alluogi pobl sy'n byw gyda dementia yng Nghymru i fyw bywydau mwy cyflawn ac egnïol am gyfnod hwy yn eu cartref ac yn y gymuned y maent yn byw ynddi?