Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 12 Chwefror 2020.
Yn ôl gwefan Betsi Cadwaladr, credaf fod pum uned mân anafiadau wedi'u nodi, ar wahân i unedau damweiniau ac achosion brys, ar draws rhanbarth gogledd Cymru. Yn ffodus i mi, mae un ohonynt yn yr Wyddgrug, ond nid yw'r rhan fwyaf o bobl mor lwcus. Wrth gwrs, yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru, caeodd Betsi Cadwaladr bump arall yn 2013—Bae Colwyn, Rhuthun, Llangollen, y Fflint a'r Waun—er gwaethaf ymgyrchoedd lleol i'w cadw ac er gwaethaf sawl rhybudd y byddai hynny'n rhoi pwysau ychwanegol ar ein hadrannau damweiniau ac achosion brys a'n meddygfeydd meddygon teulu. Wrth gwrs, dyna'n union a ddigwyddodd. Felly, o ystyried eich sylwadau ychydig funudau yn ôl, pa ystyriaeth rydych yn ei rhoi i adfer unedau mân anafiadau o bosibl i'r cymunedau a'u collodd neu i gymunedau eraill gerllaw?