Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 12 Chwefror 2020.
Weinidog, rwy'n siŵr y bydd un o'ch blaenoriaethau ar gyfer gwasanaeth iechyd gorllewin Cymru yn ymateb i'r data diweddaraf ar fesurau gofal llygaid, sy'n dangos mai 60.6 y cant yn unig o gleifion sy'n cael eu gweld o fewn y dyddiad targed ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae'r ffigur hwn wedi gostwng bron i 7 y cant ers mis Ebrill y llynedd, pan gafodd 67.5 y cant o gleifion eu gweld o fewn yr amser targed, felly mae'n amlwg fod angen ymyrraeth bellach i sicrhau nad yw'r ffigurau hyn yn parhau i gwympo. A allwch chi ddweud wrthym felly pa gamau uniongyrchol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r mater hwn, ac a allwch ddweud wrthym hefyd sut y bydd Llywodraeth Cymru yn diogelu gwasanaethau offthalmig ar gyfer y dyfodol fel bod digon o staff offthalmig ar gael i atal rhestrau aros hir a niwed na ellir ei wrthdroi yn y dyfodol?