Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 12 Chwefror 2020.
Gwyddom fod pwysau ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol gyfan yn cyfrannu at heriau yn ein hadrannau brys. Rydym yn parhau i weithio gyda GIG Cymru a phartneriaid i reoli'r galw ar draws y system mewn gwahanol ffyrdd. Mae hyn yn cynnwys darparu ystod ehangach o ofal yn llawer agosach at adref.