Part of the debate – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 12 Chwefror 2020.
Lywydd, diolch. Rwy'n cynnig yn ffurfiol y cynnig ger ein bron a gyflwynwyd heddiw yn enw Ceidwadwyr Cymru gan Darren Millar.
Fe welwch ein bod yn gofyn i Gynulliad Cymru
‘Nodi'r pryderon a fynegwyd gan gleifion a chlinigwyr ledled Cymru ynghylch perfformiad a dyfodol adrannau achosion brys y GIG.’ i ‘wrthod cynigion gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a allai arwain at roi terfyn ar wasanaethau 24 awr a gaiff eu harwain gan feddygon ymgynghorol yn adran achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg.’ ac rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i
'ymyrryd er mwyn atal unrhyw achos o israddio neu gau adrannau achosion brys yng Nghymru yn ystod y Cynulliad hwn.’
Nawr, cyn i mi ddechrau, hoffwn ddweud yn glir fod y wybodaeth rifiadol yn fy nghyfraniad wedi'i chymryd yn uniongyrchol gan StatsCymru, Ymddiriedolaeth Nuffield, Llywodraeth Cymru ei hun neu'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys. Ac mae hwn yn bwynt pwysig i'w wneud, gan fod yn rhaid i ni beidio â chaniatáu i Lywodraeth Cymru wadu’r sefyllfa rydym yn ei gweld ac y mae staff a chleifion yn ei hwynebu ar draws adrannau brys Cymru. Ni allwn ychwaith ganiatáu i Lafur a Llywodraeth Cymru barhau i feio cyni neu gyllid, y Ceidwadwyr i lawr coridor yr M4, neu bwysau di-baid, anhysbys ac anesboniadwy, neu'n wir, yr ystadegau nad ydynt yn eu hoffi, gan fod y pryderon a fynegir gan gleifion a chlinigwyr yn uwch nag erioed.
Ddoe, clywais y Prif Weinidog yn ailadrodd y mantra fod arolwg boddhad y GIG wedi nodi cyfradd boddhad o 93 y cant, ond fe wyddoch chi, Weinidog, a gwn innau mai'r defnydd o ystadegau meintiol ar ei waethaf yw hyn, gan nad yw'n rhoi unrhyw sylw i’r dadansoddi dyfnach sy'n ofynnol. Mae pobl yn ddiolchgar am y gwasanaeth sydd ganddynt, ond pan ofynnwch iddynt sut y perfformiodd y gwasanaeth, byddant yn dweud wrthych am yr amseroedd aros, byddant yn dweud wrthych am y cofnodion coll a'r symud o gwmpas yr ysbytai. A gadewch i mi ddyfynnu’n uniongyrchol o rai o’r ymatebion i arolwg mawr y GIG y mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn ei gynnal ar blatfformau’r cyfryngau cymdeithasol ar hyn o bryd. Dyma un:
Ar y cyfan, rwy’n eithaf hapus gyda fy nhriniaeth ac eithrio'r adran damweiniau ac achosion brys lle maent yn gweithio'n ofnadwy o galed er nad oes ganddynt ddigon o adnoddau, a hynny oherwydd prinder staff, oherwydd bod gormod o arian yn cael ei wario ar reolwyr nad ymddengys eu bod yn deall beth y mae ysbyty i fod i'w wneud.
Neu un arall:
Ffoniais am ambiwlans ar gyfer fy mherthynas 87 oed, a oedd yn anymwybodol. Cymerodd dros awr a hanner i gyrraedd. Fe aethant â hi i ysbyty Wrecsam. Ar ôl wyth awr, nid oeddent wedi gwneud dim. Mae’r staff gwych yn gweithio'n ddibynadwy. Nid yw amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn ddigon da. Ni fyddai fy mherthynas yma heddiw oni bai am y meddygon a'r nyrsys, ond roedd y system yn warthus.
Felly, wrth gwrs, maent 93 y cant yn fodlon fod eu perthynas yn dal i fod yma, ond roedd y profiad yn erchyll. A dywed clinigwyr wrthym fod gaeaf 2019-20 wedi bod yn anodd, gyda’r ganran isaf o gleifion yn cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn pedair awr ers dechrau cadw cofnodion—a gadewch i mi ailadrodd hynny—ers dechrau cadw cofnodion. Ym mis Rhagfyr 2019, 66.4 y cant yn unig o gleifion a welwyd o fewn pedair awr—swnio'n dda? Wel, gadewch i ni droi hynny ar ei ben. Dyna 33.6 y cant o gleifion na chawsant eu gweld o fewn pedair awr. Gadewch i mi ailadrodd hynny: arhosodd traean o'r cleifion fwy na phedair awr i gael eu gweld mewn adran damweiniau ac achosion brys yng Nghymru.
Ond Aelodau, nid yw nifer y cleifion ym mis Rhagfyr 2019 yn syndod. Mae cyfartaledd o 55,560 o gleifion wedi dod i'n hadrannau brys bob mis hyd yn hyn y gaeaf hwn, o gymharu â 67,490 y gaeaf diwethaf, a 65,629 y gaeaf cyn hynny. Felly, gadewch i mi ailadrodd hynny: mae llai o gleifion yn dod i’n hadrannau damweiniau ac achosion brys y gaeaf hwn na'r llynedd a'r flwyddyn flaenorol, ond mae'r perfformiad wedi gwaethygu. Ac o ystyried na welwyd traean o'r cleifion o fewn pedair awr, mae'n gwneud synnwyr fod nifer y cleifion sy'n aros mwy nag wyth a 12 awr yn cynyddu bob gaeaf—StatsCymru, eich gwybodaeth chi.