Part of the debate – Senedd Cymru ar 12 Chwefror 2020.
Gwelliant 2—Siân Gwenllian
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu cynllun cynhwysfawr ar gyfer cynyddu'r gweithlu clinigol, gyda ffocws penodol ar arbenigeddau ac ardaloedd daearyddol y mae'n anodd recriwtio iddynt, megis mewn adrannau achosion brys, fel na ellir byth ddefnyddio prinder staff i gyfiawnhau cau a newid gwasanaethau.