Part of the debate – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 12 Chwefror 2020.
Diolch, Lywydd. Mae llawer o Aelodau yn y Siambr hon wedi cyfeirio at y ddeddf gofal gwrthgyfartal, sef, yn y bôn, mai’r rhan o'r boblogaeth sydd fwyaf o angen gwasanaethau gofal sy'n wynebu'r rhwystrau mwyaf rhag cael mynediad atynt. Rydym hefyd wedi nodi ar sawl achlysur mai pobl yn yr ardaloedd tlotaf hefyd sy'n wynebu’r baich mwyaf o afiechyd. Canlyniad yw hyn i gyfuniad o'r etifeddiaeth ddiwydiannol a’r ffaith bod y bobl yn y cymunedau hynny wedi cael eu hesgeuluso pan gawsant eu dad-ddiwydiannu.
Rydym hefyd wedi nodi mai agwedd ddiystyriol uwch reolwyr yn y GIG wrth ymdrin â chwynion a arweiniodd at sgandal y gwasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf, ac wedi nodi na fyddai hynny wedi digwydd yn ôl pob tebyg i bobl mewn ardal fwy cyfoethog. Ond unwaith eto, nid yw'r gwersi’n cael eu dysgu, gan fod y Llywodraeth Lafur hon yn llywyddu dros bolisi o gau adrannau damweiniau ac achosion brys yn un o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Mae hyn er gwaethaf yr astudiaeth gan Brifysgol Sheffield yn 2007 a ganfu fod cynnydd o 10 km mewn pellter yn gysylltiedig â chynnydd absoliwt o oddeutu un y cant mewn marwolaethau, a bod y berthynas honno'n fwy i gleifion â chyflyrau anadlol. Ac mae hyn wedi'i gadarnhau gan o leiaf ddwy astudiaeth arall o gleifion ag asthma.
Nawr, mae'r bwrdd yn nodi mai prinder staff yw’r rheswm am hyn, ac wrth gwrs, mae’n wir dweud, yn arwynebol, fod uned heb feddygon yn mynd i fod yn beryglus. Ond mae'n rhaid inni ofyn pam. Sut y cyraeddasom y sefyllfa hon?
Mae'r ffigurau a ddyfynnais ddoe i'r Prif Weinidog yn dangos bod nifer y meddygon ymgynghorol wedi cynyddu'n sylweddol yn yr ardaloedd sydd ag unedau damweiniau ac achosion brys nad ydynt dan fygythiad. Ni ddigwyddodd hynny yn yr ardaloedd lle cytunwyd ar gynigion ad-drefnu. Mae'n broffwydoliaeth hunangyflawnol. Nid oes unrhyw un yn dewis gweithio mewn lle sydd dan fygythiad, pan fydd rheolwyr yn dibynnu ar staff asiantaeth yn lle hysbysebu swyddi hirdymor. Clywodd fy swyddfa gan nifer o feddygon sy’n awyddus i gael swyddi amser llawn yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a byddent yn eu derbyn pe byddent yn cael cynnig rhywfaint o hyblygrwydd o ran oriau.
Felly, beth yw'r camau tymor byr uniongyrchol sy'n rhaid eu cymryd yn awr? Yn gyntaf oll, gwnewch ymrwymiad cyhoeddus i ddyfodol hirdymor yr adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Hyn yn unig a fydd yn helpu i recriwtio a chadw staff. Cynigiwch waith amser llawn i’r staff asiantaeth presennol, gan addasu eu horiau os oes angen. Gwyddom fod llawer o bobl a fyddai'n derbyn y cynnig hwn. Hysbysebwch rai swyddi, gan ddefnyddio cymhellion ariannol, fel y mae Caerdydd wedi'i wneud yn ddiweddar, os yw hynny'n angenrheidiol ar gyfer y swyddi sy’n anodd eu recriwtio. Ac yn bwysig, gwnewch y disgwyliadau’n glir i’r rheolwyr—maent wedi bod yn gweithredu gyda disgwyliadau i’r gwrthwyneb, a chred y dylai'r uned gau ers i raglen de Cymru gael ei chytuno.
Yn y tymor hwy, mae gan Blaid Cymru bolisïau sydd wedi’u hystyried a’u costio’n drylwyr ar gyfer hyfforddi a recriwtio 1,000 o feddygon ychwanegol, ac mae hynny'n cynnwys buddsoddi mewn targedu recriwtiaid lleol a chynyddu nifer y lleoedd hyfforddi ar gyfer meddygon. Fe ellid ac fe ddylid rhoi’r polisïau hyn ar waith er budd holl wasanaethau'r GIG yng Nghymru nawr.
Hoffwn droi’n gyflym at chwalu rhai mythau. Yn gyntaf oll, mae angen i'r Torïaid ystyried y ffaith bod y broses hon wedi digwydd yn Lloegr. Dywedodd Jeremy Hunt yn glir ei fod yn dymuno canoli, a rhoddodd sêl bendith i hyn ddigwydd yn ôl pan oedd yn Ysgrifennydd iechyd. Drwy gyd-ddigwyddiad, hwn oedd y dyddiad y dechreuodd perfformiad GIG Lloegr ddirywio, ac mae'r dirywiad hwnnw'n parhau hyd heddiw. Felly, nid oes gan y Torïaid hanes da o ddarparu model gwahanol o drefnu’r gwasanaeth.
Yn ail, i'r rheini sydd am ddiddymu'r Cynulliad, mae angen iddynt ystyried beth fyddai'n digwydd pe na bai gan uwch reolwyr y GIG unrhyw oruchwyliaeth wleidyddol o gwbl. Mae rhai uwch reolwyr wedi cael eu clywed yn dweud yn breifat eu bod am i ganoli fynd yn llawer pellach. Pe byddent yn cael eu ffordd, gallem fod ag unedau damweiniau ac achosion brys yng Nghaerdydd ac Abertawe yn unig yn y pen draw, ac efallai un neu ddau arall. Dim ond y ffaith bod Llafur yn gwybod na fyddent yn cael rhwydd hynt i gytuno i hynny sy'n atal y broses hon rhag gwaethygu. Ond mae hynny hefyd yn amlygu gwirionedd arall na ellir ei osgoi: y gallai'r Gweinidog iechyd atal y cynigion hyn yr eiliad hon, ond mae'n dewis peidio.
Rwyf am gloi gyda hyn: byddwn ni ym Mhlaid Cymru yn gwneud popeth a allwn i'w hatal rhag cau neu leihau'r oriau yn ein hadran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ac rydym yn bwriadu ennill y frwydr hon. Os gwnawn, mae Llywodraeth Plaid Cymru yn y dyfodol yn addo cadw ein hadrannau damweiniau ac achosion brys yn hirdymor. Ond os na wnawn ennill, byddwn yn addo eu hadfer. Diolch.