Part of the debate – Senedd Cymru am 5:46 pm ar 12 Chwefror 2020.
Symudwn yn awr at y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n bwriadu galw'r bleidlais gyntaf. Na. Iawn. O'r gorau. Y bleidlais gyntaf y prynhawn yma, felly. Rydym yn pleidleisio ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar adrannau brys y GIG. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 17, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig, a phleidleisiwn ar y gwelliannau.