Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 25 Chwefror 2020.
Diolch am yr ateb yna. Rwyf i wedi codi mater gwarchodfa natur Cynffig a'i thwyni gyda chi o'r blaen, ac mae honno wedi cael ei tharo gan y tywydd a llifogydd, nid yn ystod y pythefnos diwethaf yn unig, ond ers y Nadolig. Ac rydych chi'n iawn, mae pob llygad ar gartrefi a busnesau ar hyn o bryd, ac yn sicr nid wyf i eisiau bychanu hynny, ond rwy'n synnu braidd o glywed bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dilyn y trywydd y mae wedi ei ddilyn. Onid ydyn nhw wedi cysylltu â chi, neu a yw perchnogion y safle hwnnw wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru, am unrhyw gymorth tuag at liniaru effeithiau'r llifogydd hynny?