Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 25 Chwefror 2020.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae cymunedau ledled Cymru wedi cael eu distrywio gan storm Ciara a storm Dennis dros yr wythnosau diwethaf, a hoffwn achub ar y cyfle i ddiolch i'r gwasanaethau brys a'r cymunedau ar hyd a lled Cymru sydd wedi gweithio'n ddiflino i gynorthwyo’r rhai yr effeithiwyd arnyn nhw.
Nawr, rwy'n sylweddoli y bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad ar y mater hwn yn ddiweddarach heddiw, ond a ydych chi'n ffyddiog fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud, ac yn gwneud, popeth o fewn ei gallu i ddiogelu a chynorthwyo'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan lifogydd ledled Cymru gyfan?