Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 25 Chwefror 2020.
Fel Llywodraeth, rydym ni'n gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol, gyda'r RSPCA ac eraill i wneud yn siŵr nad oes gan berchenogion cŵn unrhyw amheuaeth ynghylch y cyfrifoldeb sydd arnyn nhw i sicrhau eu bod nhw'n cadw rheolaeth ar anifeiliaid os ydyn nhw'n mynd â nhw i gefn gwlad. Mae'n drosedd caniatáu i gŵn aflonyddu ar anifeiliaid fferm yn y ffordd honno. Braint yw bod yn berchen ar gi, nid hawl, ac rydym ni'n gweithio gydag eraill i wneud yn siŵr bod y codau ymarfer yr ydym ni wedi eu darparu, mewn partneriaeth â'r diwydiant, yn atgoffa perchnogion o'u rhwymedigaethau i reoli eu hanifeiliaid anwes yn yr amgylchiadau hynny.