Lles Anifeiliaid Fferm

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 25 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 1:34, 25 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, rydym ni i gyd yn pryderu am les anifeiliaid, ac rwyf i wedi codi'r cwestiwn hwn yn y Siambr o'r blaen am fy mhryderon am allforion anifeiliaid byw. Nawr bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dweud y bydd yn atal allforion anifeiliaid byw, a'n bod ni'n gadael yr UE o'r diwedd, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo heddiw y bydd yn gwneud hynny hefyd?