Llifogydd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 25 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 1:38, 25 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Yn anffodus, mewn rhai ardaloedd, mae'r llifogydd naill ai wedi cael eu hachosi neu eu gwaethygu gan gwlfertau wedi eu blocio neu sydd wedi torri. Yn Ystalyfera, yng nghwm Tawe, deallaf fod cais cyfalaf eisoes wedi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, fel y gellir gwneud gwaith adfer i gwlfert sydd wedi torri ar dir sy'n cael ei brynu gan yr awdurdod lleol at y diben hwn. A allwch chi roi sicrwydd y bydd y mathau hyn o geisiadau am arian cyfalaf yn cael eu cyflymu nawr i geisio sicrhau cyn lleied â phosibl o risgiau yn y dyfodol, ac a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf o ran y trafodaethau yr ydych chi'n eu cael gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot ynghylch ei anghenion cyllid cyfalaf cyffredinol?

Ac mewn awdurdod cyfagos, yng Ngorseinon yn ninas a sir Abertawe, dywedir wrthyf fod deiliaid tai sydd wedi dioddef llifogydd wedi cael gwybod y bydd y cyngor yn codi tâl arnyn nhw i gasglu eitemau cartref a gafodd eu difetha gan y llifogydd. Does bosib nad ydych chi'n cytuno bod hyn yn ymddangos yn hynod annheg, ac a wnewch chi geisio sicrhau nad oes yr un cyngor yn codi tâl ar ddeiliaid tai yn y sefyllfa hon?