Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 25 Chwefror 2020.
Hoffwn ddechrau trwy gytuno â'r pwynt y mae'r Aelod wedi ei wneud bod gwersi i'w dysgu. Mae'n sicr y bydd gwersi i'w dysgu, onid yw? Ac mae'n bwysig iawn, pan fydd yr argyfwng uniongyrchol ar ben, bod pawb a fu â rhan i'w chwarae mewn ymateb iddo yn cymryd yr amser i weld a ddarparwyd popeth a oedd yno yn y cynllun ar lawr gwlad yn y ffordd a fwriadwyd.
Rwy'n credu y gwnaed ymdrechion gwirioneddol i gydgysylltu'r ymateb ledled Cymru. Roedd y ganolfan cydgysylltu argyfyngau y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhedeg ar agor drwy gydol penwythnos storm Dennis. Roedd strwythur gorchymyn y gwasanaethau brys yn weithredol drwy gydol y penwythnos hwnnw ac wedi bod yn ymateb i storm Ciara yn y gogledd hefyd. Roedd yn brawf pwysig o'r strwythur gorchymyn hwnnw, a phan gyfarfûm ag un o'r prif gwnstabliaid yng Nghymru, dywedodd wrthyf ei fod yn teimlo bod yr ymarferion a gynhaliwyd gennym ni yma yng Nghymru dros y misoedd diwethaf i baratoi ar gyfer ymadawiad 'heb gytundeb' o'r Undeb Ewropeaidd ac o ran coronafeirws wedi bod o fudd mawr iddyn nhw o ran gallu rhoi'r trefniadau hynny ar waith. Nid yw hynny'n golygu nad oes gwersi y gallwn ni fanteisio arnyn nhw pan fyddwn ni'n sefyll yn ôl oddi wrth hyn i gyd, ond rwy'n credu bod ymdrechion gwirioneddol wedi eu gwneud i gydgysylltu ac i ddefnyddio'r strwythurau a roddwyd ar waith i ymateb i amgylchiadau brys.
Cyn belled ag y mae'r strategaeth yn y cwestiwn, yna oedd, roedd y strategaeth yn destun ymgynghoriad yn gynharach y llynedd. Daeth i ben yn yr hydref, ac mae'r Gweinidog yn bwriadu cyhoeddi'r strategaeth wedi'i diweddaru yn ystod y misoedd nesaf. Rwy’n amau'n fawr iawn fy hun, Llywydd, bod cymunedau a ganfu eu hunain yng nghanol achosion o lifogydd yn poeni am gyhoeddi strategaeth ar yr adeg yr oedden nhw'n ymdopi â'r argyfwng, ond mae paratoadau ar gyfer y strategaeth honno wedi datblygu'n dda. Bydd yn cael ei chyhoeddi'n fuan a bydd yn helpu i ddatblygu cydnerthedd a blaenoriaethu buddsoddiad yn y dyfodol mewn cymunedau sydd yn y mwyaf o berygl.