Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 25 Chwefror 2020.
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Rwy'n cytuno y bydd yn rhaid i ni feddwl yn wahanol am y dyfodol. Nid wyf i'n dod i'r un casgliadau yn union ag y mae e'n dod iddyn nhw, gan fy mod i'n credu y bydd y ffigurau'n dangos pan fo'r digwyddiadau hyn ar ben bod 73,000 o aelwydydd ledled Cymru, o leiaf, a amddiffynnwyd rhag effeithiau'r digwyddiad tywydd eithafol hwn oherwydd y cynlluniau atal llifogydd a weithredwyd yng Nghymru yn y cyfnod diweddar. Felly, nid wyf i'n credu y bydd y syniad nad oedd pethau wedi cael eu gwneud yn gwrthsefyll craffu.
Yr hyn y mae'n iawn yn ei gylch, rwy'n meddwl, yw bod y cynlluniau sydd wedi bod ar waith wedi cael eu llunio er mwyn gallu gwrthsefyll y mathau o ddigwyddiadau tywydd yr ydym ni wedi eu gweld dros yr 50 mlynedd diwethaf. Ac mae'n ddigon posibl—mae gwyddor hinsawdd yn dweud wrthym ni fod y mathau o ddigwyddiadau a welsom ni dros y pythefnos diwethaf yn debygol o ddod yn amlach ac yn fwy dwys yn y dyfodol, ac felly, bydd yn rhaid i'r prawf yr ydym ni'n barnu cynlluniau atal llifogydd yn ei erbyn fod yn wahanol er mwyn bodloni'r dwysedd newydd hwnnw o risg, ac yn yr ystyr hwnnw, bydd yn rhaid i'r dyfodol fod yn wahanol i'r gorffennol.
Trafodais hyn ddoe gyda'r Ysgrifennydd Gwladol yn y cyfarfod a gyd-gadeiriwyd gennym ni ar domenni glo yng Nghymru. Mae tomenni glo sy'n peri risg yn cael eu harchwilio'n aml iawn gan awdurdodau lleol, gan yr awdurdod glo a chan Cyfoeth Naturiol Cymru. Maen nhw'n eu harchwilio yn erbyn y math o risg y byddai gaeaf yn ei hachosi. Os yw'r risgiau hynny'n mynd i fod yn wahanol, yna bydd angen i'r safonau archwilio fod yn wahanol, ac, felly, bydd yn rhaid i'r dyfodol, fel y dywedodd Paul Davies, bellach fodloni'r amgylchiadau newydd hynny.
O ran cyhoeddi gwariant gan Lywodraeth Cymru o dan y rhaglen rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd, rydym ni'n gwneud hynny drwy'r amser. Pryd bynnag y caiff cynllun ei gytuno—£44 miliwn yn y de-orllewin yn ddiweddar—yna rydym ni'n cyhoeddi'r cynlluniau hynny ac yn cyhoeddi'r symiau o arian sy'n gysylltiedig â nhw, gan ein bod ni'n awyddus iawn i bobl yng Nghymru allu gweld sut mae'r £350 miliwn sy'n cael ei wario yn ystod y tymor Cynulliad hwn yn cael ei ddefnyddio i'w hamddiffyn rhag effeithiau llifogydd afonol ac arfordirol.