Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 25 Chwefror 2020.
Diolch am gadarnhau bod y bwrdd yn mynd i gynnal adolygiad mewnol i'r problemau dyrys a phryderus sydd wedi codi yn sgil ad-drefnu'r gwasanaethau fasciwlar. Ond, Prif Weinidog, dydy adolygiad mewnol ddim digon da. Mae pobl yn y gogledd wedi colli pob ffydd yn rheolwyr Betsi Cadwaladr, er, wrth gwrs, yn gwerthfawrogi gwaith y staff ar y rheng flaen yn fawr iawn. Felly, dwi'n siomedig iawn nad ydy'ch Llywodraeth chi am gynnal ymchwiliad annibynnol yn sgil yr holl gwynion sydd wedi dod i'r fei drwy waith y cyngor iechyd cymunedol. Pam na wnewch chi dderbyn y darlun du iawn sydd yn ymddangos erbyn hyn, a pham na wnewch chi ddim cynnal adolygiad annibynnol, a hynny ar frys?