1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 25 Chwefror 2020.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch y gwasanaethau fasciwlar yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ers iddyn nhw gael eu had-drefnu? OAQ55124
Diolch i Siân Gwenllian am y cwestiwn. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wrthi'n cynnal adolygiad o'r gwasanaeth rhwydwaith fasciwlar, a sefydlwyd fis Ebrill 2019. Mae disgwyl i'r adroddiad gael ei drafod yn eu cyfarfod bwrdd ar ddiwedd mis Mawrth.
Diolch am gadarnhau bod y bwrdd yn mynd i gynnal adolygiad mewnol i'r problemau dyrys a phryderus sydd wedi codi yn sgil ad-drefnu'r gwasanaethau fasciwlar. Ond, Prif Weinidog, dydy adolygiad mewnol ddim digon da. Mae pobl yn y gogledd wedi colli pob ffydd yn rheolwyr Betsi Cadwaladr, er, wrth gwrs, yn gwerthfawrogi gwaith y staff ar y rheng flaen yn fawr iawn. Felly, dwi'n siomedig iawn nad ydy'ch Llywodraeth chi am gynnal ymchwiliad annibynnol yn sgil yr holl gwynion sydd wedi dod i'r fei drwy waith y cyngor iechyd cymunedol. Pam na wnewch chi dderbyn y darlun du iawn sydd yn ymddangos erbyn hyn, a pham na wnewch chi ddim cynnal adolygiad annibynnol, a hynny ar frys?
Wel, Llywydd, dwi ddim yn meddwl ei fod e'n deg jest i gyfeirio at y gwaith mae Betsi Cadwaladr yn ei wneud fel rhywbeth jest mewnol, achos maen nhw'n defnyddio pobl tu fas i'r bwrdd i gynghori ar y gwaith sydd yn mynd ymlaen. Ac mae'r ymgynghoriad maen nhw'n ei gael gyda phobl sydd yn arbenigwyr yn y maes, ac maen nhw'n annibynnol ar y bwrdd hefyd. Dyna pam mae'r Athro John Brennan, sy'n gweithio yn Lerprwl—a consultant vascular surgeon—yn rhan o'r broses o edrych yn ôl at y gwasanaeth, sydd wedi bod yno am lai na blwyddyn ar hyn o bryd. A hefyd maen nhw'n defnyddio—. Yn y gwaith mae Betsi Cadwaladr wedi rhoi ar waith, maen nhw'n defnyddio data cenedlaethol newydd, sydd wedi dod atom ni, i gymharu'r gwasanaeth sydd ar gael nawr yng ngogledd Cymru—i gymharu beth sy'n mynd ymlaen yn Betsi Cadwaladr gyda beth sy'n ymlaen mewn gwasanaethau eraill o'r un fath mewn llefydd eraill yn y Deyrnas Unedig. Does neb fan hyn wedi gweld yr adroddiad eto. Dwi'n fodlon aros i weld beth mae'r adroddiad yn ei ddweud, i weld beth mae pobl annibynnol sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith yn ei ddweud yn yr adroddiad yna, ac i weld os bydd yn rhaid inni wneud rhywbeth arall ar ben y top.