Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 25 Chwefror 2020.
Llywydd, bydd fy nghyd-Weinidog Ken Skates yn gwneud datganiad ar hyn i gyd yn ddiweddarach y prynhawn yma. Fel yr esboniais yn fy ateb cyntaf, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i Ddinas a Sir Abertawe i'w caniatáu i wneud y gwaith rhagarweiniol angenrheidiol i ddatblygu metro de Cymru. Mae Cam 1 wedi'i gwblhau, bydd Cam 2 yn cael ei gwblhau yn fuan, ac edrychwn ymlaen at weithio gydag awdurdodau lleol—nid yn unig yn Abertawe, ond, fel y dywedodd Dr Lloyd, yn yr ardaloedd cyfagos—i wneud yn siŵr bod y dull aml-fodd hwnnw o adeiladu metro, gwasanaethau bysiau a threnau, ein bod ni'n gallu rhoi hynny ar waith er budd trigolion lleol.