Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 25 Chwefror 2020.
Rwy'n cefnogi system metro ar gyfer dinas-ranbarth Abertawe yn frwd. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno mai'r cam cyntaf ddylai fod cael cyfnewidfeydd bws/rheilffordd mewn gorsafoedd rheilffordd presennol gydag amserlenni cyson a bysiau yn aros mor agos â phosibl i'r orsaf drenau? Yn Llansamlet, er enghraifft, nid yw pob un o'r arosfannau bws y tu allan i orsaf Llansamlet ac mae un ohonyn nhw ar ôl i chi droi'r gornel i lawr ffordd arall, y mae'n debyg, pe na byddech chi'n adnabod yr ardal, y byddech chi'n cael anhawster mawr i'w ganfod. Ac a gaf i hefyd wneud fy nghais rheolaidd am ailagor gorsaf Glandŵr?