Storm Dennis

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 25 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:09, 25 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Llywydd, rwy'n deall eich bod chi wedi rhoi caniatâd i gwestiynau 4 a 7 gael eu grwpio gyda'i gilydd. Yn dilyn yr uwchgynhadledd llifogydd brys aml-asiantaeth yr wythnos diwethaf, rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed i roi cymorth ymarferol ac ariannol ar waith ar gyfer aelwydydd, busnesau ac awdurdodau lleol yr effeithiwyd arnyn nhw gan y llifogydd o storm Ciara a storm Dennis.