1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 25 Chwefror 2020.
4. A wnaiff Llywodraeth Cymru amlinellu pa gymorth y mae'n yn ei roi i gymunedau y mae storm Dennis wedi effeithio arnynt? OAQ55117
7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau sydd wedi dioddef llifogydd yng Nghymru? OAQ55141
Llywydd, rwy'n deall eich bod chi wedi rhoi caniatâd i gwestiynau 4 a 7 gael eu grwpio gyda'i gilydd. Yn dilyn yr uwchgynhadledd llifogydd brys aml-asiantaeth yr wythnos diwethaf, rydym ni wedi bod yn gweithio'n galed i roi cymorth ymarferol ac ariannol ar waith ar gyfer aelwydydd, busnesau ac awdurdodau lleol yr effeithiwyd arnyn nhw gan y llifogydd o storm Ciara a storm Dennis.
Prif Weinidog, hoffwn gofnodi fy niolch i chi, i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ac i holl Lywodraeth Cymru am eich ymdrechion i gynorthwyo'r rhai y mae eu cartrefi a'u busnesau wedi eu difetha gan storm Dennis. Mae'r cymorth ariannol yr ydych chi'n ei roi ar waith yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan etholwyr yr wyf i wedi siarad â nhw, ac ynghyd â chymorth gan gyngor Rhondda Cynon Taf, bydd yn helpu'r rhai sydd wedi colli popeth. Gwerthfawrogir eich presenoldeb amlwg iawn chi eich hun a Gweinidog yr amgylchedd hefyd. Fe wnaeth y ddau ohonoch ymweld ag ardaloedd a oedd yn dioddef llifogydd yn Rhondda Cynon Taf sawl gwaith yn ystod yr wythnos ddiwethaf, gan gynnwys ddydd Mercher pan ymwelodd Gweinidog yr amgylchedd ag Aberpennar gyda mi. Mae hyn yn gwrthgyferbynnu'n llwyr, Prif Weinidog, â Llywodraeth y DU lle nad yw Boris Johnson wedi ymweld ag unrhyw gymuned y mae llifogydd wedi effeithio arni, nac wedi cynnig cymorth ariannol, er gwaethaf ceisiadau ysgrifenedig gennyf i ac ACau ac ASau eraill yn Rhondda Cynon Taf. A ydych chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, bod dyletswydd ar Lywodraeth y DU i helpu, yn foesol ac yn gyfreithiol?
Diolchaf i Vikki Howells am hynna, a gadewch i minnau dalu'r un deyrnged i'r camau y mae Aelodau lleol ar draws y Siambr wedi eu cymryd yn eu hetholaethau lleol i ymateb i'r anawsterau y mae trigolion lleol wedi eu hwynebu. Gwn fod yr Aelodau yn y fan yma wedi bod yn gweithio'n galed dros y pythefnos diwethaf yn y gogledd a'r de i sicrhau bod trigolion lleol yn gwybod bod y Cynulliad Cenedlaethol hwn, y Senedd hon, yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i'r cyfyng-gyngor y maen nhw wedi ei wynebu—fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths yn Llangollen a Llanrwst, a Ken Skates fel Gweinidog gogledd Cymru yn y gogledd, yn ogystal â'r ymweliadau y mae Vikki Howells wedi cyfeirio atyn nhw.
O ran Llywodraeth y DU, nid ymweliadau yw'r cymorth yr wyf i ei eisiau ganddyn nhw o reidrwydd, ond cymorth mwy pendant arian parod—yr arian y bydd ei angen arnom ni, yr arian a gymerwyd oddi wrthym ni dros yr wythnosau diwethaf, fel y soniais eiliad yn ôl, mae angen i'r arian hwnnw gael ei roi yn ôl fel y gallwn wneud yn siŵr bod y sefydliadau hynny ar lawr gwlad, boed hynny yn ein hawdurdodau lleol sydd dan bwysau mawr, neu boed yn Cyfoeth Naturiol Cymru fel y clywsom yn gynharach, yn cael yr arian sydd ei angen arnyn nhw i allu ymdrin nid yn unig â digwyddiadau'r wythnosau diwethaf, ond y digwyddiadau yn y misoedd i ddod i gymunedau sydd wedi eu heffeithio.
Yn gyntaf oll, hoffwn ychwanegu fy nghydymdeimlad dwys â phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd ledled Cymru, a thalu teyrnged i'r gwasanaethau brys a'r ymdrechion cymunedol rhagorol. Mae'r ymateb gennych chi, Prif Weinidog, a Gweinidog yr amgylchedd wedi bod yn ardderchog ac i'w groesawu'n fawr. Fodd bynnag, bydd effaith y llifogydd hyn yn cael ei theimlo am fisoedd, a hyd yn oed am flynyddoedd i ddod, ac rwy'n awyddus i weld y momentwm a'r cymorth hwnnw'n parhau. Mae angen dysgu gwersi ac mae angen cryfhau mannau gwan posibl yn ein hamddiffynfeydd.
Er na welodd Casnewydd y lefelau o ddinistr gan lifogydd a welwyd mewn rhannau eraill o Gymru, ymwelais â rhai o'r rhannau gwaethaf yn fy etholaeth i yr effeithiwyd arnyn nhw gan lifogydd. Roedd afon Ebwy ar lefelau a oedd yn achosi pryder yn Nyffryn ac ym Masaleg, a thra'r oedd yr amddiffynfeydd yn gadarn ar y cyfan, roedd hyn yn fater o gentimetrau mewn sawl man. Mae'r trigolion yn ddiolchgar ac maen nhw'n cydymdeimlo'n fawr â'r ardaloedd gwaethaf ledled Cymru, ond mae'n amlwg eu bod nhw'n ofnus ynghylch y dyfodol. Maen nhw wedi gofyn am asesiadau o'r amddiffynfeydd presennol a pha grantiau cymorth y gellir eu rhoi ar gael i amddiffyn eu cartrefi'n well.
Mae busnesau hefyd wedi cael eu taro'n galed iawn. Mae'r Parc Fferm Cefn Mably poblogaidd wedi ei ddistrywio, ac maen nhw'n edrych ar fisoedd o fod ar gau o ganlyniad. Bydd hyn nid yn unig yn effeithio ar y busnes a'i gwsmeriaid, ond ar y gweithwyr a'u teuluoedd. Pa gymorth allwn ni ei ddarparu i sicrhau bod busnesau'n codi yn ôl ar eu traed cyn gynted â phosibl?
Diolchaf i Jayne Bryant am hynna, Llywydd. Hoffwn ganolbwyntio, os caf, ar ran olaf y cwestiwn atodol hwnnw yn unig—y cymorth sydd ar gael i fusnesau. Fe'i gwnaed yn eglur gennym yr wythnos diwethaf yn yr uwchgynhadledd y gall cynghorau ddefnyddio eu pwerau disgresiwn i atal rhwymedigaethau treth gyngor ac ardrethi annomestig ar eiddo sydd wedi dioddef llifogydd, ac y bydd Llywodraeth Cymru yn ad-dalu'r costau hynny i awdurdodau lleol o dan y cynllun cymorth ariannol brys. Felly, mae hwnnw'n gymorth ar unwaith ac uniongyrchol, ac mae awdurdodau lleol bellach yn gwybod y gallan nhw gynnig y cymorth hwnnw ac na fyddan nhw'n ysgwyddo'r gost; byddan nhw'n cael eu talu trwy gynllun cymorth ariannol brys Llywodraeth Cymru.
Mae Busnes Cymru wedi bod yn weithgar iawn dros yr wythnos ddiwethaf. Ceir llinell gymorth y gall busnesau ei defnyddio i gysylltu'n uniongyrchol â desg gymorth y mae Busnes Cymru yn ei darparu, gan wneud yn siŵr bod busnesau'n cael y cyngor sydd ei angen arnyn nhw i ymdrin â phroblemau llif arian, problemau hylifedd. Cynhaliwyd cymhorthfa ym Mhontypridd ddydd Gwener yr wythnos diwethaf y cymerodd Busnes Cymru ran ynddi, ynghyd â Mick Antoniw, yr Aelod lleol. Cafodd ei ailadrodd ddydd Llun yng Ngholeg y Cymoedd, gan sicrhau unwaith eto bod busnesau'n cael y cymorth hwnnw yn uniongyrchol. Mae Banc Datblygu Cymru yn targedu busnesau llai a allai elwa ar eu benthyciad carlam o £25,000, unwaith eto i geisio gwneud yn siŵr, lle mae busnesau angen cymorth brys, ein bod ni'n defnyddio'r llwybr hwnnw i'w cynorthwyo, ac mae fy nghyd-Weinidog Ken Skates wedi nodi ei fod yn edrych yn y cyllidebau sydd ganddo, a ddarparwyd yn wreiddiol i gynorthwyo busnesau pe byddai Brexit 'heb gytundeb', i weld a allem ni arallgyfeirio rhywfaint o'r arian hwnnw i gynorthwyo busnesau sy'n canfod eu hunain yn yr amgylchiadau a nodwyd gan Jayne Bryant.
A gaf i uniaethu â'r teimladau sy'n cael eu mynegi ar draws y Siambr o blaid y cymorth y mae pob ochr yn ei roi, boed hynny y gwirfoddolwyr, y gwasanaethau brys, neu gymunedau eu hunain yn dod at ei gilydd ar gyfer y rhai sydd wedi dioddef oherwydd y llifogydd yn fy rhanbarth etholiadol i ond hefyd ledled Cymru, gan fod hyn wedi effeithio ar Gymru gyfan?
Hoffwn fynd yn ôl at y pwynt a godwyd gan arweinydd yr wrthblaid gyda chi ynglŷn â'r strategaeth rheoli perygl llifogydd. Ddwy flynedd yn ôl, cymerodd pwyllgor yr amgylchedd dystiolaeth ar hyn yn ei waith craffu cyn y gyllideb a dywedwyd wrtho bod hon yn ddogfen a oedd yn cael ei pharatoi ac y byddai ar gael yn fuan. Mewn ymateb i'r cwestiwn hwnnw heddiw, Prif Weinidog, dywedasoch y byddai gyda ni ymhen ychydig fisoedd. Yn wir, Prif Weinidog, tua dwy flynedd yn ddiweddarach, mae'r teitl yn dweud y cyfan. Dyma'r strategaeth rheoli perygl llifogydd a fyddai'n cyfarwyddo'r llyfr rheolau y gwnaethoch chi gyfeirio ato y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio'n unol ag ef ar hyn o bryd a llawer o elfennau eraill sy'n cael eu rhoi ar waith i geisio lliniaru rhywfaint ar y llifogydd hyn sy'n digwydd yn sgil y newid yn yr hinsawdd yr ydym ni'n ei weld ar hyn o bryd. Rwy'n sylweddoli na fyddech chi'n gallu atal yr holl lifogydd, ond os oes gennych chi strategaeth benodol ar gyfer lliniaru'r perygl o lifogydd, siawns y dylai'r ddogfen honno fod yn fyw ac ar gael yn hytrach nag, unwaith eto y prynhawn yma, clywed gennych chi y bydd hi'n fis neu ddau arall eto cyn bod y ddogfen honno ar gael. A allwch chi ddweud yn fwy manwl pryd bydd y ddogfen honno ar gael, ac yn bwysig, a fydd y ddogfen honno'n cynnwys yr ystyriaethau cyllidebol y bydd eu hangen i roi'r mesurau ar waith?
Wel, Llywydd, gadewch i mi ddweud unwaith eto bod y strategaeth genedlaethol ddrafft ar gael. Bydd unrhyw un a ymatebodd i'r ymgynghoriad wedi ei gweld, ac roedd ymateb da i'r ymgynghoriad, ac ni ddaeth hwnnw i ben tan yr hydref. Felly, gwnaed gwaith i sicrhau bod y sylwadau a gyfrannodd pobl yn rhan o'r ymgynghoriad yn cael eu hystyried o ddifrif ac yn gwneud gwahaniaeth i'r strategaeth derfynol yr ydym ni'n bwriadu ei chyhoeddi yn ddiweddarach yn y gwanwyn. Felly, nid ydym ni'n ei gohirio'n ormodol. Bydd yn ddogfen bwysig. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Andrew R.T. Davies a Paul Davies am bwysigrwydd y strategaeth honno, oherwydd bydd yn dangos sut y mae'r buddsoddiad o £350 miliwn y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud o ran peryglon llifogydd ac erydu arfordirol yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau bosibl.
Ac i ddychwelyd at thema a drafodwyd yn gynharach y prynhawn yma unwaith eto, Llywydd, o ran gwersi a ddysgwyd, un o'r pethau y byddwn ni'n rhoi sylw iddyn nhw yn y strategaeth honno fydd yr angen i geisio symud rhywfaint o'r gwariant ar reoli llifogydd o atebion sy'n seiliedig ar goncrit tuag at amddiffynfeydd rhag llifogydd mwy naturiol, lle gallwn ddefnyddio dosbarthiad naturiol, er enghraifft, fel ffordd o liniaru perygl llifogydd ymhellach i lawr yr afon. Felly, mae'r strategaeth yn bwysig, bydd yn ein helpu i ddysgu'r gwersi nid yn unig o'r wythnosau diwethaf ond o'r tymor Cynulliad cyfan hwn, a bydd yn sail i'r swm sylweddol iawn o wariant sydd eisoes wedi ei ymrwymo yn y maes hwn.
Mae'r lefelau uchel o law wedi achosi trallod llwyr i gannoedd o bobl yn y Rhondda, ac mae'n rhaid gweld i gredu pan ddaw i'r llanast sydd wedi cael ei adael ar ôl yng nghartrefi a gerddi pobl ac ar y strydoedd. Rydym ni i gyd yn ddiolchgar am un peth, fodd bynnag, sef na chollodd neb ei fywyd yn y Rhondda.
Rwyf i wedi galw am adolygiad brys o sefydlogrwydd yr holl domenni glo a adawyd ar ôl o ganlyniad i'n gorffennol diwydiannol. Mae'r tirlithriad sy'n peri pryder yn Nhylorstown yn un y bydd llawer o bobl wedi ei weld, ond bu tirlithriadau yng Nghlydach a Phontygwaith hefyd, ac rydym ni i gyd yn gwybod pa mor ddinistriol a dychrynllyd y gall tomen lo sy'n symud fod. Ysgrifennais atoch yr wythnos diwethaf ynglŷn â'r tomenni glo hyn, ac mae'n dda gweld y bu rhywfaint o weithredu ar hyn ers hynny. Ond tybed a allwch chi ddweud wrthyf i beth yw'r amserlen ar gyfer archwilio'r holl domenni glo yn y Rhondda? A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod angen i ni ailystyried yr hyn yr oeddem ni'n feddwl oedd yn ddiogel ar un adeg, oherwydd y tywydd garw sy'n dod yn fwyfwy cyffredin oherwydd yr argyfwng hinsawdd? A wnaiff ef hefyd dderbyn na all y normal newydd hwn fod yn dderbyniol? Dylem ni fod wedi gwybod bod hyn yn dod; rydym ni yn gwybod y bydd yn digwydd eto.
Ac yn olaf am nawr, a wnaiff y Prif Weinidog ystyried ailgyflwyno cynllun adfer tir ar gyfer safleoedd tir llwyd a gafodd ei ddiddymu ychydig flynyddoedd yn unig yn ôl, gan y byddai hyn yn gwneud cryn dipyn i sicrhau nad yw'r hen domenni glo nid yn unig yn cael eu dychwelyd i ddefnydd economaidd ond eu bod hefyd yn cael eu gwneud yn ddiogel?
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiynau hynny ac rwy'n cytuno â hi'n llwyr bod ymweld a gweld a sgwrsio â phobl y mae eu cartrefi wedi cael eu distrywio gan y llifogydd yn brofiad sobreiddiol iawn. Ac mae lefel y trallod dynol a achoswyd yn y cartrefi hynny yn amlwg pan ewch chi yno. Ac fel y dywedodd pobl wrthyf i pan yr oeddwn i'n ymweld â nhw, yn y pen draw gallwch chi brynu soffa newydd, ond yr hyn na allwch chi ei wneud yw cael pethau yn lle y rhai yr ydych chi wedi eu hel at ei gilydd, ar ôl magu teulu, ar ôl byw mewn cartref am ddegawdau, nid blynyddoedd, y mae eich holl atgofion wedi eu buddsoddi ynddo, ac ni ellir byth adfer y pethau hynny yn y ffordd honno. Gwnaed yr un pwynt i mi ganddyn nhw ag y mae Leanne Wood wedi ei wneud y prynhawn yma, sef, er hynny, ni chollodd neb ei fywyd ac y gellir cael atgofion yn ôl a phrynu soffas newydd, ond ni ellir dod â phobl yn ôl. Ac roedd teimlad gwirioneddol o'r ymdrech yr oedd y gwasanaethau brys wedi ei gwneud i atal y gwaethaf oll rhag digwydd.
O ran tomenni glo, yr hyn a ganfuwyd trwy gyfarfod ddoe oedd bod gan Cyfoeth Naturiol Cymru, yr awdurdod glo a'r awdurdod lleol ddull gweithredu ar y cyd, sef nodi ar raddfa y tomenni glo hynny sy'n achosi'r pryder mwyaf iddyn nhw. A chawsom ni sicrwydd ddoe y bydd yr holl domenni glo hynny sydd ar frig y rhestr honno wedi cael eu harchwilio erbyn diwedd yr wythnos hon. Mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi cael eu harchwilio eisoes, a chafwyd sicrwydd gan beirianwyr nad ydyn nhw'n peri risg i fywyd ac eiddo.
Ond cafwyd trafodaeth bwysig iawn sy'n cysylltu â phwynt Leanne Wood am y normal newydd, sef bod yr asesiadau hynny'n cael eu gwneud yn erbyn y safonau sydd wedi eu defnyddio dros y degawdau diwethaf, ac efallai na fydd y safonau hynny'n foddhaol ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Felly, byddwn ni'n sicr yn dychwelyd at y drafodaeth honno gyda'r awdurdodau hynny a chyda'r arbenigwyr y maen nhw'n yn eu defnyddio ar lawr gwlad. Roedd syniadau diddorol yn cael eu harchwilio ddoe ynglŷn â gwell posibiliadau monitro ar gyfer y tomenni hynny—technolegau newydd nad oedden nhw ar gael yn y 1980au efallai y gallem ni eu defnyddio heddiw. A bydd yr ymdrech honno'n parhau. Bydd y grŵp a gyfarfu ddoe yn cyfarfod eto i dderbyn adroddiadau pellach, i edrych ymlaen ac i wneud yn siŵr bod modd cynnig y sicrwydd y mae gan bobl bob hawl i'w ddisgwyl, ac os bydd angen cymryd camau pellach, byddan nhw'n cael eu cymryd, a bod y safonau y mae'r gwahanol awdurdodau cyhoeddus yn cyflawni eu cyfrifoldebau yn unol â nhw i ddarparu'r sicrwydd hwnnw yn addas ar gyfer y dyfodol.