Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 25 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:31, 25 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae Llywodraeth Cymru yn cwblhau cytundeb lefel gwasanaeth blynyddol gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Mae'n gosod targedau perfformiad y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i Asiantaeth y Swyddfa Brisio eu bodloni. Caiff penderfyniadau Asiantaeth y Swyddfa Brisio eu gwneud gan yr asiantaeth honno, ac maen nhw'n gwbl annibynnol ar Lywodraeth Cymru.