Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 25 Chwefror 2020.
Nid wyf i'n dod i'r casgliad hwnnw o gwbl, Llywydd. Rwy'n credu'n syml mai'r ddadl dros geisio cymorth gan Lywodraeth y DU yw'r ddadl dros yr undeb. Mae'r undeb yn gynllun yswiriant cydfuddiannol lle'r ydym ni i gyd yn talu i mewn, ac rydym ni i gyd yn gallu codi arian o dan amgylchiadau pan fo angen cymorth. Dyna pam yr wyf i wedi bod yn gefnogwr o'r Deyrnas Unedig erioed, gan fy mod i'n credu bod y system yswiriant cydfuddiannol honno wedi bod o fudd i Gymru erioed. Dyna pam rwy'n gobeithio y bydd Prif Weinidog y DU—sydd wedi rhoi'r teitl Gweinidog yr Undeb iddo'i hun—yn gweld bod y cais yr ydym ni wedi ei wneud am gymorth yn un lle gall ef ddangos bod yr undeb wir yn gweithio i Gymru.