Part of the debate – Senedd Cymru am 6:42 pm ar 25 Chwefror 2020.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o gynnig y gwelliant hwn, gan siarad yn lle fy nghydweithiwr Leanne Wood, nad yw'n gallu bod gyda ni y prynhawn yma. Hoffwn ddechrau drwy ddweud fy mod yn ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am dderbyn ein gwelliant, a gyflwynwyd yn yr ysbryd o obaith y byddai'n gwneud hynny.
Rwyf eisiau ategu'r holl bethau cadarnhaol y mae'r Gweinidog wedi'u dweud am waith y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yma yng Nghymru. Fy nghred i yw eu bod yn gwneud llawer iawn o waith gydag adnoddau cymharol brin a gwn fod y gwaith hwnnw yn cael effaith, fel y mae'r Gweinidog wedi dweud, a gwn y bydd yn parhau i wneud hynny.
Fodd bynnag, hoffwn godi rhai pryderon, nid am y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ond am yr amgylchedd y gallai fod yn gweithio ynddo. Gwyddom fod gan y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan, sy'n gyfrifol am ariannu a rheoli'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, o dan ddeddfwriaeth y DU sy'n rheoli cyfraith cydraddoldeb yma yng Nghymru ar hyn o bryd, ymrwymiad hirdymor i ddiddymu a disodli'r ddeddfwriaeth hon. Fel y dywedodd y Gweinidog yn ei haraith, rwy'n pryderu'n fawr am yr hyn y gallai'r newid hwnnw ei olygu.
Mae hon yn Llywodraeth sydd ag ymrwymiad cryf i ddadreoleiddio—Llywodraeth yn San Steffan sydd ag ymrwymiad cryf i ddadreoleiddio—a gwyddom, oni wyddom, Dirprwy Lywydd, fod dadreoleiddio'n aml yn golygu dileu amddiffyniadau'r rhai mwyaf agored i niwed, boed hynny'n amddiffyniadau pobl sy'n gweithio mewn amgylcheddau peryglus o ran iechyd a diogelwch, neu, yn yr achos hwn, ai dyma'r amddiffyniadau, er enghraifft, i fenywod a merched i gael eu hawliau wedi'u diogelu yn y gwaith os oes angen iddynt gymryd absenoldeb mamolaeth.
Rwy'n falch iawn o glywed y Gweinidog yn dweud ei bod yn bwriadu, fel y dywedodd o'r blaen, gwneud y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn ddeddf a byddwn yn ddiolchgar pe byddai'n dweud wrthym y prynhawn yma o fewn pa fath o amserlen y mae hi'n bwriadu gwneud hyn. Oherwydd ein haeriad ar y meinciau hyn yw bod y traddodiad o gefnogaeth i hybu cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, sydd wedi cael ei rannu, rwy'n credu, yn weddol eang ar draws sawl rhan o'r Cynulliad hwn, bellach o dan fygythiad gan yr amgylchedd sy'n newid yn San Steffan. Credaf fod angen inni wneud rhywfaint o'r gwaith y mae'r Gweinidog eisoes wedi'i amlinellu ar fyrder.
Roeddwn yn falch iawn o'i chlywed yn dweud yn gynharach ei bod wedi ymrwymo i'r ymchwil, sydd eisoes wedi'i grybwyll wrthym, i edrych ar ba fath o fframwaith cyfreithiol y bydd angen inni ei gael yma yng Nghymru i ddiogelu hawliau ein dinasyddion yn y dyfodol. Roeddwn hefyd yn falch o'i chlywed yn dweud bod y gwaith hwnnw'n cynnwys edrych ar y posibilrwydd o ymgorffori confensiynau'r Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Dynol yn fwy cyffredinol yng nghyfraith Cymru.
Teimlaf ei bod yn bryd, a chredwn ei bod yn bryd bellach, ystyried mynd ymhellach na hynny a cheisio datganoli cyfrifoldebau cydraddoldeb yn glir ac yn syml i'r Senedd hon, oherwydd fy nghred gadarn yw y byddwn yn gallu datblygu consensws ynghylch y math o agwedd at gydraddoldeb a hawliau dynol efallai na fydd yn bosibl ei chyflawni yn San Steffan. A'm pryder i yw y gall y gwaith cadarnhaol y mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ei wneud yn awr fod yn amhosibl os ydynt yn gweithio mewn amgylchedd lle mae Llywodraeth y DU—yn gweithio ar lefel Prydain Fawr yn yr achos hwn, wrth gwrs, oherwydd bod y trefniadau yng Ngogledd Iwerddon yn wahanol—yn wrthwynebus i'w waith.
Efallai y bydd y Gweinidog yn cofio, gan fynd yn ôl yn bell iawn, iawn i'r 1980au a dechrau'r 1990au, y bu'n rhaid gwneud llawer o'r gwaith da a wnaethpwyd wedyn gan y Comisiwn Cyfle Cyfartal yng Nghymru, dan arweiniad ein diweddar gyd-Aelod Val Feld, er gwaethaf polisi canolog y Llywodraeth ganolog ar y pryd. Nid wyf yn credu y gallwn ddisgwyl i'n Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol weithredu felly 30 mlynedd yn ddiweddarach, gan wneud gwaith cadarnhaol fel—. Er enghraifft, bydd y Dirprwy Weinidog yn cofio creu Chwarae Teg, sy'n sefydliad pwysig iawn yng Nghymru nawr, y bu'n rhaid gwneud hynny er gwaethaf y Comisiwn Cyfle Cyfartal ar y pryd yn hytrach na gyda'i gefnogaeth yn ganolog.
Felly, byddwn yn gofyn i'r Gweinidog, yn ei hymateb i'r ddadl hon—ac ni fyddaf yn ailadrodd y pethau cadarnhaol y mae wedi'u dweud am y darnau penodol o waith y mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi'u gwneud eleni—i gyflymu'r gwaith hwn i ryw raddau, oherwydd teimlaf y gall yr amgylchedd newid yn gyflymach nag yr ydym yn ei ddisgwyl, ac efallai y cawn ragor o waith i'w wneud os nad ydym, er enghraifft, yn creu fframwaith deddfwriaethol ar gyfer Cymru i ddiogelu hawliau dynol ein cyd-ddinasyddion a hybu'r gymdeithas fwy cyfartal yr wyf yn gwybod bod y Dirprwy Weinidog—a chaiff ein cefnogaeth lawn—yn ceisio'i hybu.
Felly, nid wyf yn anghytuno o gwbl, Dirprwy Lywydd, gydag unrhyw beth y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud—byddwn yn cefnogi'r cyfan—ond yr hyn yr wyf yn pryderu yn ei gylch yw'r amgylchedd hwnnw'n newid a'r angen i gyflymu'r gwaith hwn, fel nad ydym yn cael ein hunain, er enghraifft, â Chomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru sydd wedi colli cymaint o adnoddau fel mai prin yw ei allu i wneud ei waith. Diolch yn fawr.