Part of the debate – Senedd Cymru am 6:48 pm ar 25 Chwefror 2020.
Rwy'n falch o gael siarad yn y ddadl hon yn rhinwedd fy swyddogaeth yn Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Rwyf yn credu bod 'Adroddiad Effaith' y comisiwn yn rhestru ystod eang o weithgareddau ar draws bron pob maes cyfrifoldeb datganoledig, ac felly mae'n fater pwysig iawn i'w drafod yn hyn o beth. Wrth gwrs, mae'r comisiwn yn gweithredu fel ffynhonnell bwysig o arbenigedd, i'r Cynulliad ac, yn wir, i'r Llywodraeth.
Un o gyflawniadau mawr y cyfnod adrodd hwn oedd cyhoeddi 'A yw Cymru'n Decach?' yn 2018, ac rwy'n credu bod hwnnw'n adroddiad cynhwysfawr ac, yn wir, yn ddadlennol, sy'n nodi'r heriau a wynebwn wrth wneud Cymru'n fwy cyfartal a theg, a hefyd o ran y gyfres o 42 o argymhellion eang a allai helpu i sicrhau newid gwirioneddol a pharhaol pe bai'n cael ei weithredu.
Mewn gwirionedd, mae llawer o'r argymhellion hynny'n cyd-fynd â chanfyddiadau ein pwyllgor, ac yn arbennig hoffwn dynnu sylw at y rheini sy'n ymwneud â diogelu cydraddoldeb a hawliau dynol ar ôl Brexit: gwella casglu data ar ddigartrefedd; annog mwy o gyflogwyr yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i gynnig gweithio hyblyg o'r diwrnod cyntaf; mynd i'r afael â gwahaniaethu beichiogrwydd a mamolaeth; gwella dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus; sicrhau bod y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn cael ei rhoi ar waith yn llawn; a lleihau rhwystrau i sicrhau bod yr ystod ehangaf o bobl yn cymryd rhan ym mywyd gwleidyddol Cymru.
Rydym ar hyn o bryd, fel pwyllgor, yn rhoi sylw i'r materion hyn yn ein gwaith craffu presennol—neu byddwn yn ceisio gwneud hynny yn ystod misoedd olaf y Cynulliad. A hoffwn, Dirprwy Lywydd, ofyn i'r Dirprwy Weinidog a wnaiff hi amlinellu a gaiff argymhelliad 25, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i bennu targedau cyraeddadwy a chyfrwymol ar gyfer lleihau tlodi ac adrodd ar gynnydd bob blwyddyn, ei weithredu; ac, os felly, pryd y caiff y targedau hyn eu gosod.
Gan symud ymlaen i feysydd eraill o waith y comisiwn dros gyfnod yr adroddiad, mae ein pwyllgor wedi elwa ar eu harbenigedd yn ein gwaith, yn benodol: pan roddodd dystiolaeth i'n hymchwiliad i rianta, cyflogaeth a mamolaeth ym mis Gorffennaf 2018; ac fel rhan o'n gwaith ar y cyd â'r pwyllgorau cyllid a phlant, pobl ifanc ac addysg ym mis Tachwedd 2018, pan fu inni edrych ar effeithiolrwydd asesiadau o effaith cyllideb Llywodraeth Cymru; a'u gwaith ar effaith gronnol diwygiadau treth a lles ar wariant cyhoeddus, a oedd yn ddefnyddiol iawn o ran ein hystyriaeth o'r posibilrwydd o ddatganoli'r budd-daliadau hynny.
Yn ogystal â hynny, dylanwadwyd yn uniongyrchol ar ein pwyllgor gan yr 'Adroddiad Effaith' a'i arwyddion o ran ehangder gwaith y comisiwn. Mae hynny, wrth gwrs—o ran ein dealltwriaeth a'n gwerthfawrogiad o'u gwaith—yn cynnwys yn bendant y ffordd y maen nhw wedi cefnogi achosion cyfreithiol unigol ar faterion pwysig, megis gallu cael addysg ac addasu cartrefi yn y sector rhentu. Ac, wrth gwrs, mae eu hadroddiad hefyd yn bwysig o ran amlygu eu nodau ar gyfer 2019 i 2022, y gallwn gytuno eu bod i gyd yn bwysig ac yn amcanion clodwiw: sicrhau nad yw cyfleoedd bywyd pobl yn cael eu llesteirio gan rwystrau; sicrhau bod gennym ni seiliau cadarn i adeiladu cymdeithas fwy cyfartal sy'n parchu hawliau; ac amddiffyn hawliau pobl yn y sefyllfaoedd mwyaf bregus.
Felly, o ystyried yr holl waith pwysig ac arwyddocaol hwnnw, Dirprwy Lywydd, edrychaf ymlaen at weld sut y caiff y nodau hyn eu cyflawni drwy waith y comisiwn yn y flwyddyn sydd i ddod. Ac, i gloi, hoffwn gymeradwyo'r 'Adroddiad Effaith' i'r Cynulliad a'r gwaith pwysig iawn y mae'r comisiwn yn parhau i'w wneud.